Mae ymchwiliad i’r modd y gwnaeth Heddlu Llundain blismona gwylnos er cof am Sarah Everard wedi dod i’r casgliad nad oedden nhw wedi bod “yn llawdrwm nac wedi ymddwyn yn amhriodol”.

Fe ddaeth i’r casgliad hefyd, o dan arweiniad Syr Thomas Winsor, fod yr heddlu’n “gyfiawn” wrth ystyried bod peryglon Covid-19 “yn rhy fawr i’w hanwybyddu”.

Yn ôl Syr Thomas Winsor, cafodd “archwiliad cyflym ond manwl” ei gynnal.

“Mae hyder y cyhoedd yn yr heddlu’n hanfodol,” meddai.

“Mae hi’n bwysig felly y bu ymchwiliad annibynnol, gwrthrychol ar sail tystiolaeth i gynnig sicrwydd i’r cyhoedd, ac rydym yn darparu hynny heddiw.

“Mae ein model plismona’r cyhoedd yn werthfawr.

“Y swyddogion yw ein cyd-ddyn, wedi’u hariannu gan y cyhoedd i gadw’r gymuned yn ddiogel.

“Maen nhw’n dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd ac mae hawl ganddyn nhw dderbyn hynny wrth ymddwyn yn gyfreithlon, mewn modd sensitif ac yn gymesur.

“Yn yr achos hwn, yn wynebu cael eu procio’n ddifrifol ac o dan amgylchiadau anodd iawn, dyna’n union wnaethon nhw.”