Mae murlun sydd wedi’i baentio â llaw i ddathlu tras gyfunol cymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig wedi cael ei ddadorchuddio ym Mae Caerdydd.

Cafodd ei greu gan Yusuf Ismail, artist lleol sydd o dras Somali, er mwyn dathlu dinasyddion croenddu’r brifddinas fel rhan o brosiect My City, My Shirt.

Er mai Caerdydd sydd â’r boblogaeth hynaf o bobol groenddu yng Nghymru ac un o’r cymunedau Mwslimaidd hynaf yn y Deyrnas Unedig, dywed Yusuf Ismali eu bod nhw’n parhau i wynebu gwahaniaethu ar sail hil yn ddyddiol.

Yn dilyn marwolaeth Mohamud Hassan ym mis Ionawr, dywedodd fod y gymuned leol yn “flin” a’i obaith yw y bydd y murlun yn darparu “cysur ac anogaeth” yn dilyn cyfnod heriol.

Prosiect ‘My City, My Shirt’

Mae prosiect My City, My Shirt wedi’i arwain gan UNIFY ac mae’n cynnwys cyfres o luniau o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd o gefndiroedd gwahanol, wedi eu huno gan furlun sy’n datgan, “Rydym o Gaerdydd. Rydym yn rhan o’r clwb ac yn rhan o’r ddinas. Ni yw’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Rydym yn perthyn a dyma ein cartref.”

Teimla Yusuf Ismail fod Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn arf bwysig i anfon neges gryf ynglŷn â materion mae’r gymuned yn eu hwynebu, yn enwedig o ystyried bod y diwylliant pêl-droed yn aml yn gysylltiedig â chamdriniaeth hiliol.

Dros y penwythnos, cafodd dau o chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru eu camdrin yn hiliol ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn buddugoliaeth mewn gem gyfeillgar yn erbyn Mecsico, a bellach mae’r Heddlu yn ymchwilio i’r mater.

A gyda disgwyl i gefnogwyr ddychwelyd i’r stadiwm wedi i gyfyngiadau’r cyfnod clo lacio, teimlai Yusuf Ismail ei bod hi’n bwysig codi llais.

Ychwanega fod y cynlluniau i adeiladu amgueddfa filwrol ger ardal Butetown, er gwaethaf protestiadau, yn dyst i’r ffaith fod y gymuned yn cael ei hanwybyddu.

“Cam tuag at newid meddylfryd”

“Mae’r murlun cyhoeddus hwn yn symbol pwerus a fydd yn rhoi cysur ac anogaeth i bobol bob dydd,” meddai.

“I gefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a’r boblogaeth ehangach, gall fod yn agoriad llygad o safbwynt all fod wedi’i golli o’r blaen a gobeithio y bydd yn gam tuag at newid meddylfryd.

“Yn dilyn protestiadau Black Lives Matter, mae’r adolygiad diweddar o gerfluniau a henebion sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth yng Nghymru, a’r cyhoeddiad i gynnwys hanes pobl dduon yn ein cwricwlwm Cymreig newydd, yn golygu bod newid ar y gweill, ac mae’n amser gweithredu nawr.

“Mae llawer o bobl o’n cymuned yn flin yn dilyn marwolaeth Mohamud Hassan, ac rydym eisiau roi rhywbeth i’r gymuned ei ddathlu – datganiad calonogol ar ôl yr amser hynod heriol.”

“Adlewyrchu gwir ymdeimlad o berthyn”

Mae’r prosiect wedi ei gefnogi gan fenter ‘Days Ahead’, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

“Mae’r murlun hwn yn dathlu cyfraniad cymunedau pobl dduon yng Nghaerdydd a Chymru, ac mae’n rhywbeth hyfryd i’n hatgoffa ni o hyn,” meddai Dr Sarah Younan, ar ran Days Ahead.

“Mae murlun Yusuf yn adlewyrchu gwir ymdeimlad o berthyn.

“Rwy’n falch dros ben o gael gweithio gydag artistiaid talentog fel Yusuf, ac i gael chwarae rhan fach mewn helpu i wireddu ei weledigaeth.”

Mae modd gweld y murlun yn Mischief’s Café Bar, 36 Stryd James, Caerdydd.

Heddlu’n ymchwilio i sylwadau hiliol mewn negeseuon at Rabbi Matondo a Ben Cabango

“Wythnos arall o @instagram yn gwneud dim byd am sarhad hiliol,” meddai Rabbi Matondo ar Twitter

Dyn 24 oed wedi marw’n sydyn ar ôl bod yn y ddalfa yng Nghaerdydd

Heddlu De Cymru yn cadarnhau bod Mohamud Mohammed Hassan wedi treulio noson mewn gorsaf heddlu cyn cael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref

Sêl bendith i gynlluniau ar gyfer Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ddadleuol

“Maen nhw wedi anwybyddu yn llwyr yr effaith ddinistriol bydd hyn yn ei gael ar y tir agored gwyrdd fydd nawr dan gysgod yr adeilad anferth yma.”