Fydd dim gofyn i bobol yng Nghymru sy’n wynebu risg uwch o ddal Covid-19 gysgodi ar ôl heddiw (dydd Iau, Mawrth 31).
Roedd 2.2m o bobol ledled gwledydd Prydain ar y rhestr wreiddiol ar ddechrau’r pandemig, ond cafodd 1.7m yn rhagor eu hychwanegu ati fis diwethaf wrth i ragor o dystiolaeth ddod i’r fei.
Daw cysgodi i ben yn Lloegr heddiw hefyd, ond does dim cadarnhad eto beth fydd y sefyllfa yn yr Alban na Gogledd Iwerddon.
Mae mwy na 30m o bobol yng ngwledydd Prydain bellach wedi cael dos cyntaf o frechlyn Covid-19, tra bod mwy na thair miliwn hefyd wedi cael ail ddos.
Dydy cysgodi ddim wedi bod yn orfodol ond yn hytrach, yn gyngor gan yr awdurdodau i geisio cadw pobol yn ddiogel os oes ganddyn nhw rai cyflyrau neu os ydyn nhw’n cymryd meddyginiaeth sy’n cynyddu eu risg o ddal y feirws.