Mae aelod o Blaid Diddymu’r Senedd wedi trydar llun o Leanne Wood gyda’r geiriau “wyneb hyll cenedlaetholdeb.”

Wrth ateb i drydariad gan gydlynydd rhanbarthol y Blaid Diddymu yn cyfeirio tuag at Leanne Wood gan ddweud “wyneb cenedlaetholdeb Cymreig”, fe wnaeth Lee Canning drydar y llun gydag enw’r Blaid Diddymu arno.

Yn y neges wreiddiol roedd Leanne Wood wedi dweud bod y “Ceidwadwyr yn Saeson cul cyfalafol, sy’n drewi, yn llwgr, yn dweud celwydd, yn farus, ac yn hiliol, ac yn cael pleser o weld tlodi a chaledi’r dosbarth gweithiol, grŵp y maen nhw’n eu casáu.

“Os ydw i’n tynnu hynny’n ôl yn syth, a fydd e dal yn cyfrif, bydd?”

Trydarodd Leanne Wood y neges wreiddiol gyda’r #VaccineNationalism, gan gyfeirio at y ffaith fod Boris Johnson wedi dweud bod llwyddiant rhaglen frechu y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar “fod yn farus”, ac ar “gyfalafiaeth”.

Ymateb Plaid Diddymu

“Diolch am ddwyn ein sylw ni at hyn,” meddai llefarydd ar ran Plaid Diddymu wrth golwg360.

“Gallaf gadarnhau bod Lee wedi dileu’r trydariad gan fy mod yn cytuno bod y ddelwedd yn erbyn y pennawd yn amhriodol.

“Er bod Lee yn nodi ei fod e’n ymosod ar safbwyntiau Leanne a’i phlaid ac wedi defnyddio llun cyffredin ohoni, gallai’r argraff fod wedi cael ei dehongli’n wahanol.”

“Rhagor o gasineb tuag at ferched”

Roedd Lee Canning yn arfer bod yn ddirprwy gadeirydd i’r Ceidwadwyr Cymreig, cyn gadael y blaid ac ymuno â Phlaid Diddymu’r Senedd yn 2019.

Fe geisiodd sefyll fel ymgeisydd dros y Blaid Geidwadol yn etholiadau’r Senedd, ond cafodd ei rwystro rhag sefyll.

Yn ôl Lee Canning yn 2019, cafodd ei rwystro yn sgil “jôc” ar Twitter, pan alwodd e ffrind benywaidd yn “slag”.

Mae nifer o bobol ar Twitter wedi ymateb i’w drydariad, gyda Bethan Sayed, sy’n Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, yn dweud: “Rhagor o gasineb yn erbyn merched gan y dyn pathetig yma.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.