Mae cynghorydd ym Mhowys wedi gadael y blaid Geidwadol gan ymuno a phlaid Diddymu Cynulliad Cymru.

Dywed Claire Mills fod “rhwystredigaeth” ynghylch beth mae hi’n ei ddisgrifio fel methiannau datganoli wedi ei harwain at ymuno â’r blaid, sydd wedi cadw ‘Cynulliad’ yn ei enw er mai Senedd Cymru yw’r sefydliad bellach.

Mae’n debyg y bydd y penderfyniad yn golygu y bydd hi’n sefyll fel ymgeisydd Diddymu Cynulliad Cymru yn etholiadau Senedd Cymru y flwyddyn nesaf.

Dyma’r ail berson i droi ei gefn ar y blaid Geidwadol ag ymuno â phlaid Diddymu Cynulliad Cymru o fewn chwe mis.

Bu i Lee Canning, oedd yn ddirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, ymuno â’r blaid ym mis Tachwedd 2019.

“Mae Cymru’n haeddu gweld, gan bleidleisio dros Ddiddymu gallwn roi terfyn ar loteri côd-post y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, rhoi’r addysg mae pobl ifanc yn ei haeddu iddynt ag ariannu ein hawdurdodau lleol mewn modd teg,” meddai Claire Mills wrth egluro ei phenderfyniad.

Daw hyn yn yr un wythnos â galwad gan Aelod Ceidwadol yn Senedd San Steffan y dylid diddymu Senedd Cymru gan na allai ei etholwyr fynd i draethau Cymru yn ystod y cyfyngiadau Cymru ar gyfer y coronafeirws.