Mae Plaid Cymru’n dweud bod rhaid sicrhau bod gweithwyr cwmni dur Liberty Steel yn rhan o’r trafodaethau am ei ddyfodol.
Daw hyn wrth i’r blaid ymateb i’r newyddon bod y Llywodraeth yn ystyried gwladoli’r cwmni.
Mae’r cwmni wedi gofyn i weinidogion am gymorth ariannol o £170m, ac mae pryderon ynghylch dyfodol y cwmni wedi dod i’r amlwg ar ôl i fanc Greensill Capital fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Fe wnaeth Sanjeev Gupta, rheolwr y cwmni, gyfaddef fod rhai o’u safleoedd yn gwneud colled ariannol.
Mae’r cwmni’n cyflogi tua 5,000 o weithwyr, gan gynnwys 136 yng Nghasnewydd, a 50 yn Nhredegar.
Gan ymateb i’r newyddion fod gwladoli’r cwmni’n yn un o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried, dywed Delyth Jewell, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, fod gweithwyr Liberty Steel yn “cael eu dal yng nghanol” y trafodaethau.
“Ymysg y trafodaethau am ddyfodol a chyfoeth Liberty Steel mae yna weithwyr, sydd wedi’u dal yn y canol, ac sy’n chwilio am gysur bod eu llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eu pŵer i ddiogelu eu swyddi,” meddai Delyth Jewell, sy’n cynrychioli De Ddwyrain Cymru yn Senedd Cymru.
“Ar gyfer y bron i 200 o weithwyr yng Nghymru, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n sydyn ac yn sicrhau bod pob opsiwn yn cael ei ystyried yn yr ymdrech i achub swyddi yn y sector diwydiannol allweddol yma.
“Yr unig ddyfodol tymor hir diogel a chynaliadwy i weithfeydd dur Cymru yw dychwelyd perchnogaeth y diwydiant dur Cymreig i ddwylo Cymry – a sicrhau bod ein gweithwyr ac ein cymunedau’n rhan o’r trafodaethau.”
Cefndir
Ymhlith y rhai sydd wedi annog y Llywodraeth i wladoli’r cwmni mae Ed Milliband, a’r undebau.
“Mae Unite yn annog y Llywodraeth i wneud popeth posib er mwyn arbed Liberty Steel a sicrhau ei ddyfodol hirdymor,” meddai Uno’r Undeb.
“Ni ddylid diystyru unrhyw opsiwn i arbed ei dyfodol hirdymor, Liberty Steel, ac mae’n rhaid i hynny gynnwys yr opsiwn i wladoli’r busnes.”
Ddechrau mis Mawrth, fe wnaeth Adam Price ofyn i Mark Drakeford mewn cyfarfod seneddol a oedd y “Llywodraeth Cymru gynnig i roi cymorth i weithgareddau Liberty Steel a’u partneriaid yng Nghymru.”
Wrth ymateb, dywedodd prif weinidog Cymru nad oedd y llythyr gan Sanjeev Gupta, a gafodd ei yrru ar Fawrth 4, yn gofyn am gymorth ariannol.