Fe ddylai’r Llywodraeth ystyried gwladoli cwmni dur Liberty Steel er mwyn achub miloedd o “swyddi hanfodol”, meddai Ed Miliband, llefarydd busnes y Blaid Lafur.
Mae ’na ansicrwydd am ddyfodol y cwmni ar ôl i’r banc Greensill Capital fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Greensill Capital oedd prif fenthycwr GFG Alliance, sy’n berchen ffatrïoedd dur ar draws y Deyrnas Unedig gan gynnwys Liberty Steel.
Mae perchennog GFG Alliance, Sanjeev Gupta, yn cyflogi 5,000 o bobl ar draws y DU, y rhan fwyaf sy’n gweithio i Liberty Steel ar draws 11 o safleoedd gan gynnwys Casnewydd, Scunthorpe, a Rotherham.
Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Ysgrifennydd Busnes cysgodol Llafur bod angen i’r Llywodraeth ystyried pob opsiwn er mwyn cadw’r cwmni i fynd, gan gynnwys ei wladoli.
Dywedodd: “Mae’r rhain yn swyddi hanfodol i gymunedau ar hyd a lled y wlad… Allwn ni fforddio gadael i’r swyddi yma fynd. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth sicrhau nad ydy hynny’n digwydd.”
Daw sylwadau Ed Miliband ar ôl i’r Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng ddweud ei fod wedi cynnal trafodaethau “adeiladol” gydag arweinwyr undebau i drafod dyfodol Liberty Steel.