Mae BT wedi cadarnhau cynlluniau i wario £12 biliwn ar gyflenwi 20 miliwn o dai gyda chysylltiad band-eang ffeibr-llawn erbyn diwedd y degawd.
Daw hyn wedi i Ofcom gyhoeddi rheolau newydd.
Bydd y penderfyniad yn caniatáu i BT sicrhau enillion eu buddsoddiadau, a chynnig eglurdeb ar eu prisiau am y 10 mlynedd nesaf.
Roedd swyddogion BT yn gobeithio y byddai’r buddsoddiad yn caniatáu iddyn nhw wneud elw o 12%, er na wnaeth Ofcom fanylu ar y ganran.
“Mae hyn yn newyddion da i bob cyflenwr ffeibr yn y Deyrnas Unedig,” meddai Philip Jansen, Prif Weithredwr BT.
“I ni, dyma’r golau gwyrdd yr ydym ni wedi bod yn aros amdano.
“Bydd cael cysylltiad band-eang ffeibr-llawn yn sylfaen gadarn i BT am ddegawdau, ac yn gymorth i’r Deyrnas Unedig wrth ailadeiladu wedi’r pandemig.”
Ni fydd prisiau’r gwasanaeth ffeibr newydd yn cael eu rheoli, ac ni fydd cap ar y pris. Ond, bydd Openreach, adran gyfanwerthu BT, yn gallu cynyddu prisiau eu hen rwydweithiau copr yn unol â chwyddiant dros y degawd nesaf.
“Erbyn hyn rydym ni’n cyflenwi i dros 4.5 miliwn safle, ac yn adeiladu’r rhwydweithiau yn sydyn, ar gost is ac ar ansawdd uwch na neb arall yn y Deyrnas Unedig,” meddai Clive Selley, pennaeth Openreach.
“Bydd y rheoliadau newydd yn caniatáu i ni gyflenwi tair miliwn safle ychwanegol bob blwyddyn, gan gynnig cysylltiad newydd i dai a busnesau ar draws y Deyrnas Unedig.”
Cadw mewn cysylltiad yn “bwysicach nag erioed”
Dywedodd Ofcom bod y penderfyniad yn golygu y bydd tua 70% o’r Deyrnas Unedig yn gallu dewis rhwng gwahanol rwydweithiau.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynllunio i sicrhau bod 20% arall o’r Deyrnas Unedig yn cael cyflenwad drwy gyllid cyhoeddus, a bydd Openreach yn cyflenwi 10%.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cadw mewn cysylltiad wedi bod yn bwysicach nag erioed. Ond mae miliynau o dai yn dal i ddefnyddio llinellau copr a gafodd eu gosod 100 mlynedd a mwy yn ôl,” eglura’r Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom.
“Dyma’r amser i gyflenwi cysylltiad band-eang gwell ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym yn chwarae ein rhan – drwy greu’r amgylchiadau cywir i gwmnïau allu buddsoddi yn nyfodol ffeibr-llawn y wlad.”