Fe allai ceiswyr lloches gael eu hanfon i ganolfannau dramor i aros i’w cais gael ei brosesu, yn ôl adroddiadau.

Mae’n rhan o gynlluniau’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel i drawsnewid y system mewnfudo.

Mae Gibraltar, tiriogaeth Prydain dramor, yn cael ei ystyried fel lleoliad posib, yn ôl adroddiadau yn The Times, yn ogystal ag Ynys Manaw ac ynysoedd eraill ger arfordir gwledydd Prydain.

Mae Priti Patel wedi rhoi addewid i atal mewnfudwyr rhag gwneud teithiau peryglus dros y Sianel ac mae disgwyl iddi gyhoeddi manylion ei chynlluniau i drawsnewid y system ar gyfer ceiswyr lloches a mewnfudwyr wythnos nesaf.

Yn ôl y papur newydd, mae’r cynlluniau’n cynnwys ymgynghori am newid y gyfraith fel bod ceiswyr lloches yn cael eu hanfon i ganolfannau prosesu mewn gwledydd eraill.

Yn ôl yr adroddiadau fe fyddai’r ddeddfwriaeth newydd yn cynnwys dedfryd o garchar am oes i bobl sy’n smyglo ceiswyr lloches, a sefydlu canolfannau ar eu cyfer ar dir y llywodraeth.

“Polisi annynol”

Ond mae elusennau wedi condemnio’r polisi gan ddweud bod cynlluniau tebyg yn Awstralia yn dangos ei fod yn arwain at salwch meddwl a hunan-niweidio.

Dywedodd Enver Solomon o’r Cyngor Ffoaduriaid: “Mae’n bolisi annynol sy’n tanseilio traddodiad balch ein cenedl o amddiffyn pobl sy’n ffoi rhag erledigaeth a braw. Mae llawer ohonyn nhw wedi mynd ymlaen i weithio fel meddygon a nyrsys yn y GIG.

“Wrth i ni nodi 70 mlynedd ers confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ffoaduriaid yn ddiweddarach eleni dylem fod yn croesawu ffoaduriaid, gan eu trin â thosturi.”