Mae pobol ifanc yn poeni am ddal i fyny â’u hastudiaethau ar ôl y cyfnod clo, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Roedd mwy na chwarter o ddisgyblion oed uwchradd yng Nghymru yn treulio tridiau neu lai’r wythnos yn gwneud gwaith ysgol yn ystod y cyfnod clo cyntaf, meddai’r ymchwil.

Gofynnodd yr arolwg i bobol ifanc ym mlynyddoedd saith i ddeuddeg am eu profiadau yn dysgu o gartref yn ystod yr haf y llynedd, ynghyd â chanolbwyntio ar eu lles meddyliol a’u harferion o ddydd i ddydd.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod 47% o bobol ifanc yn treulio pum diwrnod yr wythnos ar weithgareddau addysg wrth ddysgu o gartref, gyda 28% yn treulio tridiau neu lai.

Datgela’r ffigurau bod mwy na hanner (53%) y plant ym mlwyddyn saith yn poeni am ddal i fyny â’u hastudiaethau, ac mae’r ganran yn codi i 71% ymysg disgyblion blwyddyn 10.

Ynghyd â hynny, roedd y canlyniadau’n dangos bod mwy na chwarter y bobol ifanc yn poeni a oedd gan eu teulu ddigon o arian i fyw.

“Hanfodol cefnogi pobol ifanc”

“Mae ein canfyddiadau yn dangos y pryderon a’r heriau y mae pobol ifanc a’u teuluoedd wedi’u hwynebu ers dechrau COVID-19,” meddai’r Athro Catherine Foster, o Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru.

“Mae’r canlyniadau’n dangos bod plant yn colli eu ffrindiau a’u hathrawon ac y byddant yn croesawu dychwelyd i’r ysgol, ac eto maent hefyd yn poeni am ddiogelwch y rhai o’u cwmpas.

“Roedd bron i dri chwarter o bobol ifanc ym Mlwyddyn 10 a arolygwyd gennym yn poeni am ddal i fyny ar eu hastudiaethau pan ofynnon ni’r cwestiynau’r llynedd, pryder a rannwyd gan bron i hanner yn eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd.

“Felly mae’n hanfodol cefnogi pobol ifanc i baratoi ar gyfer cam nesaf eu haddysg a sicrhau nad yw straen dros golli gwaith yn effeithio ar eu hymgysylltiad â dysgu yn y dyfodol.”

Dywedodd 70% o’r rhai a gafodd eu holi eu bod yn fwy gwerthfawrogol o’u teuluoedd ers dechrau’r pandemig, dywedodd 41% fod ganddynt fwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac roedd traean yn meddwl mwy am o ble y daeth eu bwyd.

“Er bod mwy o werthfawrogiad o deulu a meddwl am ein ffynonellau bwyd yn beth da, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar ba mor anodd fu’r flwyddyn ddiwethaf i bobol ifanc,” ychwanegodd Dr Foster.

“Mae pryderon a rennir gan y mwyafrif am yr ysgol ac anwyliaid yn golygu y dylai iechyd meddwl a lles fod yn ffocws allweddol wrth symud ymlaen ar gyfer yr holl wasanaethau sy’n ymgysylltu â phobl ifanc.”

Galw am “gydbwysedd” rhwng lles emosiynol a gwaith academaidd

Sian Williams

“Wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol, ddylen ni ddim bod yn canolbwyntio ar ddal i fyny efo gwaith academaidd yn unig”