Fe allai Cymru dderbyn llai o gyflenwadau o’r brechlyn Covid-19 yn yr wythnosau nesaf a allai effeithio’r targed ar gyfer canol mis Ebrill, yn ôl y gweinidog iechyd Vaughan Gething.
Mae adroddiadau y gallai’r cyflenwad “ostwng yn sylweddol” yn y Deyrnas Unedig tua diwedd y mis hwn. Credir mai oedi yn nosbarthiad cyflenwadau o frechlyn AstraZeneca o India sydd i gyfrif am y diffyg.
Mewn cynhadledd newyddion ddoe (Dydd Mercher, Mawrth 18) dywedodd Vaughan Gething bod posibilrwydd y bydd na oedi yn y cyflenwadau sy’n golygu y gallai Cymru gael “llai na’r disgwyl” o’r brechlyn.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 1,857,590 dos o’r brechlyn Covid-19 wedi cael ei glustnodi ar gyfer Cymru ond mai 1,523,290 dos sydd wedi cyrraedd gan adael diffyg o 334,300. Mae’r ffigurau yma’n cynnwys brechlyn Pfizer BioNTech a brechlyn Rhydychen AstraZeneca.
Y targed ar hyn o bryd yng Nghymru yw sicrhau bod y grwpiau blaenoriaeth o un i naw yn cael cynnig y brechlyn erbyn canol mis Ebrill.
Angen “tryloywder”
Wrth ymateb i’r adroddiadau dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod angen “tryloywder llawn” ynglŷn a dosbarthu’r brechlyn.
Dywedodd bod angen “llif cyson o wybodaeth” yn dilyn awgrymiadau am oedi mewn dosbarthu’r cyflenwadau o’r brechlyn.
“Dw i wedi galw dro ar ôl tro am gyhoeddi’r data ynglŷn â nifer y brechlynnau sy’n cael eu dosbarthu yn y Deyrnas Unedig. Felly dw i’n gofyn eto, pryd fydd y data yma ar gael yn gyhoeddus, fel ein bod ni’n gallu bod a hyder bod dosbarthiad y brechlyn mor gyflym a theg i bawb?”
Oedi cyn llacio rhagor o gyfyngiadau?
Mae arbenigwr yn Lloegr wedi rhybuddio y gallai gostyngiad yn nifer y brechlynnau arwain at oedi cyn llacio rhagor o gyfyngiadau.
Mae mwy na 25 miliwn o bobl yn y DU bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn ond mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi rhybuddio y gallai fod “gostyngiad sylweddol” yn ystod mis Ebrill. Mae sefydliadau iechyd yn Lloegr wedi derbyn llythyr yn dweud wrthyn nhw am beidio gwneud rhagor o apwyntiadau ar gyfer brechlynnau ym mis Ebrill.
Dywedodd Dr Simon Clarke o Brifysgol Reading y gallai effeithiau hynny “barhau am fisoedd”.