Mae’r Blaid Lafur wedi lansio eu hymgyrch etholiadol drwy addo y bydd pob person ifanc dan 25 oed yn cael swydd, lle mewn coleg neu brifysgol, hyfforddiant, neu waith hunangyflogedig.

Wrth edrych ymlaen at etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai, dywedodd Mark Drakeford y byddai’r Gwarant i Bobol Ifanc yn cynnwys creu 125,000 o brentisiaethau newydd ledled y wlad.

Dyma’r tro cyntaf y bydd pobol 16 ac 17 oed, a dinasyddion tramor cymwys, yn cael pleidleisio yng Nghymru.

Mae’r Blaid hefyd wedi addo y bydd gweithwyr gofal yn cael y “cyflog byw go iawn”, ac y byddan nhw’n sicrhau mwy o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar batrôl.

Mae addewid i wneud Cymru’n wyrddach drwy ddiddymu mwy o blastig untro a chreu Coedwig Genedlaethol i Gymru hefyd yn rhan o’u hymgyrch.

Dywedodd Mark Drakeford fod Llafur yn ymrwymo i greu miloedd o swyddi newydd drwy adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd.

Pe bai Llafur yn parhau i arwain Llywodraeth Cymru ar ôl 6 Mai, dywedodd y blaid ei bod yn bwriadu buddsoddi yn y GIG ac ysgolion a sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd.

Bydd Mr Drakeford yn gobeithio y bydd hyn yn ddigon sicrhau mwyafrif yn y Senedd am y tro cyntaf ers datganoli yn 1999.

Mae gan y blaid 29 o 60 sedd yn y Senedd ac mae wedi ffurfio Llywodraeth gyda chefnogaeth unig Aelod o’r Senedd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, sy’n Weinidog Addysg, ac yr aelod annibynnol, Dafydd Elis-Thomas AoS, sy’n ddirprwy weinidog diwylliant.

Bydd Llafur yn gobeithio y bydd ei ffordd o ymdrin â pandemig Covid-19 yn cael ei ystyried yn gadarnhaol gan yr etholwyr, yn hytrach nag yn negyddol.

‘Chwe phrif addewid’

“Bydd ein maniffesto yn cynnwys chwe phrif addewid a fydd yn sicrhau bod Cymru yn parhau i symud yn ei blaen,” meddai’r Prif Weinidog cyn y lansiad.

“Bydd addewidion clir yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol.

“I bobol ifanc, rydym yn addo sefyll gyda nhw wrth iddyn nhw wynebu’r argyfwng economaidd gwaethaf i ni ei weld erioed.”

Yn ogystal, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu 500 o swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yn barod, ac yn addo cynyddu’r nifer i 600.

“Ar gyfer ein cymunedau, rydym yn addo cadw pobol ac ein strydoedd yn sâff,” ychwanegodd.

“Tra bod y Ceidwadwyr eisiau cael gwared ar y 500 swyddog heddlu a chymorth cymunedol, byddwn ni, nid yn unig yn gwarchod nhw, ond yn ariannu 100 arall.”

Fe wnaeth e, hefyd, feirniadu’r Ceidwadwyr, gan eu cyhuddo o beidio â gweithredu er budd Cymru.

“Eu datrysiad i bob problem sydd wedi codi’n ystod y pandemig? Dylai Cymru gopïo Lloegr.

“Ac ni all Plaid Cymru adeiladu’r dyfodol hwn, chwaith. Nid ydyn nhw wedi gorfod gwneud unrhyw benderfyniadau anodd dros y 12 mis diwethaf, ac mae posib gweld y diffyg profiad drwy eu hymgyrch etholiadol.”

Llafur “wedi rhedeg allan o syniadau”

Wrth ymateb, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod “y pandemig wedi amlygu’r hyn mae 22 mlynedd o Lywodraeth Lafur wedi gwneud i Gymru.

“Mae’n amlwg eu bod nhw wedi rhedeg allan o syniadau,” meddai Andrew RT Davies.

“Fe wnaeth y Blaid Lafur dorri rhan fwyaf o’u haddewidion ar gyfer etholiad 2016, ac nid oes rheswm i gredu y bydd pethau’n wahanol y tro hwn.

“Maen nhw wedi methu ag adeiladu ffordd liniau’r M4, uwchraddio’r A55, creu systemau metro, a chreu swyddi sy’n talu’n well i bobol Cymru.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod Llafur wedi “rhoi’r gorau i egwyddorion sosialaidd”.

“Efallai y bydd y Prif Weinidog yn siarad am gyfiawnder cymdeithasol, ond mae camau gweithredu’n awgrymu bod Llafur yn rhoi’r gorau i’w hegwyddorion sosialaidd,” meddai.

“Mae anghydraddoldeb wedi’i wreiddio yng nghyfnod Llafur wrth y llyw, a dim ond pleidlais i Blaid Cymru ar Fai 6 fydd yn sicrhau llywodraeth gyda chyfiawnder cymdeithasol yn flaenoriaeth iddi.”

Mae Plaid Cymru hefyd wedi ymateb drwy ddweud bod Llafur methu “dyfeisio eu polisïau eu hunain heb sôn am eu cyflawni”.