Mae Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, wedi dweud nad oes gan y Blaid Lafur y “gallu i ddyfeisio eu polisïau eu hunain heb sôn am eu cyflawni”.

Lansiodd y Blaid Lafur eu hymgyrch etholiadol drwy addo y bydd pob person ifanc dan 25 oed yn cael swydd, lle mewn coleg neu brifysgol, hyfforddiant, neu waith hunangyflogedig.

Wrth edrych ymlaen at etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai, dywedodd Mark Drakeford y byddai’r Gwarant i Bobol Ifanc yn cynnwys creu 125,000 o brentisiaethau newydd ledled y wlad.

“Bydd ein maniffesto yn cynnwys chwe phrif addewid a fydd yn sicrhau bod Cymru yn parhau i symud yn ei blaen,” meddai’r Prif Weinidog.

“Bydd addewidion clir yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol.

“I bobol ifanc, rydym yn addo sefyll gyda nhw wrth iddyn nhw wynebu’r argyfwng economaidd gwaethaf i ni ei weld erioed.”

“Lansiad ymgyrch di-nod”

Wrth ymateb i lansiad ymgyrch y Blaid Lafur, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Yn debyg iawn i’w lansiad ymgyrch di-nod, mae ugain mlynedd Llafur mewn grym wedi’i bod y llawn oedi, methiannau, a pholisi o fynnu amynedd wrth ddwysau problemau yn hytrach na’u datrys.

“Mae Llafur wedi cael dau ddegawd i ddarparu cyflogau teg i staff iechyd a gofal, a chreu cynllun ar gyfer dyfodol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

“Dim ond nawr bod angen cefnogaeth y Cymry arnynt y maent yn eu rhoi ar waith.

“Nid yw Llafur yn gallu dyfeisio eu polisïau eu hunain heb sôn am eu cyflawni.

“Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i Blaid Cymru gadarnhau ein hymrwymiad i isafswm cyflog o £10 i weithwyr gofal ac rydym wedi mynnu ysgol feddygol i’r Gogledd am y chwe blynedd diwethaf.

“Mae pobol Cymru’n wynebu dewis rhwng addewid arall gan y Blaid Lafur, neu Plaid Cymru a pholisi iechyd fydd yn cael ei gyflawni.”

Y Blaid Lafur yn lansio eu hymgyrch etholiadol gydag addewid i bobol ifanc

Mark Drakeford yn addo y bydd pob person ifanc dan 25 oed yn cael swydd, lle mewn coleg neu brifysgol, hyfforddiant, neu waith hunangyflogedig