Bydd cyflogau Aelodau o’r Senedd yn aros yr un peth am weddill tymor y Senedd, ac yn ystod blwyddyn gyntaf y tymor nesa’.
Mae corff annibynnol y Bwrdd Taliadau wedi dod i’r penderfyniad hwn yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus, ac mae’n golygu y bydd cyflog AoSau yn aros yn £67,649 am y tro.
Ym mis Mehefin y llynedd cyhoeddodd y Bwrdd eu bwriad i godi cyflogau AoSau gan 4.4% (i £72,321). Erbyn mis Medi mi gefnwyd ar hynny, ac felly mi rewyd cyflogau’r Aelodau.
Roedd yna gynlluniau yn ddiweddarach i godi cyflogau gan 2.4% (i £69,273) ond bellach mae’r Bwrdd wedi cyfnu ar hynny hefyd.
Mae Cadeirydd y Bwrdd, Dr Elizabeth Haywood, wedi tynnu sylw at “wrthwynebiad aruthrol” y pleidiau, ac at yr argyfwng covid, wrth egluro’r resymeg.
“Caledi economaidd” y pandemig
“Yn dilyn blwyddyn o amgylchiadau economaidd anffafriol, mae effaith y pandemig yn parhau i ymledu, gan ddifrodi incwm gweithwyr yng Nghymru,” meddai Dr Elizabeth Haywood.
“Er gwaethaf adfywiad economaidd am gyfnod y llynedd, mae cyfnodau clo parhaus a mesurau eraill wedi arafu’r adferiad hwn.
“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu na fydd llawer yng Nghymru wedi dianc rhag y caledi economaidd a achoswyd gan y pandemig. Ac nid ydynt yn debygol o wneud hynny am gryn amser eto.
“Roedd gwrthwynebiad aruthrol y pleidiau yn y Senedd i unrhyw newidiadau i gyflogau hefyd yn ffactor pwysig.
“O ystyried y casgliadau hyn, penderfynodd y Bwrdd rewi cyflogau Aelodau a deiliaid swyddi ychwanegol am ail flwyddyn.”