Mae llai nag un ym mhob chwech o ferched sy’n dioddef ymosodiadau rhywiol yng Nghymru a Lloegr yn mynd at yr heddlu, yn ôl arolwg newydd.

Aeth 16% o ferched rhwng 16 a 54 oed a oedd wedi dioddef ymosodiadau rhywiol rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 2020 at yr heddlu, yn ôl amcangyfrifiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hyn yn cymharu ag 19% ymysg dioddefwyr gwrywaidd, ychwanega’r Swyddfa.

Yn y flwyddyn yn gorffen ym mis Mawrth 2020, dioddefodd 773,000 o oedolion rhwng 16 a 74 oed ymosodiadau rhywiol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r ffigwr yn cynnwys ymdrechion i ymosod yn rhywiol.

Roedd 618,000 ohonynt yn ferched, o gymharu â 155,000 dyn.

Cafodd 162,936 o droseddau rhywiol eu hadrodd i’r heddlu rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 2020, gyda’r ffigwr 0.7% yn is na’r flwyddyn flaenorol.

Nifer y troseddau sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu “yn llawer is” na nifer y dioddefwyr

“Mae ein canfyddiadau diweddaraf yn dangos bod ymosodiadau rhywiol yn llai cyffredin yn ystod y flwyddyn oedd yn gorffen ym Mawrth 2020, ond dylwn nodi bod yr amcangyfrif presennol yn debyg i’r lefelau yr ydym ni wedi’u gweld dros ran fwyaf o’r 15 mlynedd ddiwethaf,” meddai Helen Ross, o Ganolfan Trosedd a Chyfiawnder y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Daeth y gwymp yn sgil lleihad mewn achosion o ddinoethi a chyffyrddiadau rhywiol heb ganiatâd, ond nid oedd newid yn nifer yr achosion o ymosodiadau rhywiol drwy dreisio.

“Dros yr un cyfnod, bu gostyngiad bychan yn nifer y troseddau rhywiol a gafodd eu hadrodd i’r heddlu, er eu bod wedi treblu, bron, yn y blynyddoedd diweddar.

“Mae nifer y troseddau sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu yn parhau i fod yn llawer is na’r amcan o nifer y dioddefwyr.”

Ag ystyried yr achosion o droseddau rhywiol a gafodd eu hadrodd i’r heddlu yn y flwyddyn hyd at mis Mawrth 2020, merched oedd y dioddefwyr yn 84% ohonynt.

Mewn achosion o dreisio a gafodd eu hadrodd i’r heddlu yn yr un cyfnod, roedd 90% o’r dioddefwyr yn ferched.