Does dim cymhariaeth rhwng Senedd Cymru a Chyngor Plwyf byd enwog Handforth, yn ôl Gweinidog y Gymraeg.

Daeth y cyngor plwyf hwnnw, yn Swydd Gaer, yn hynod adnabyddus wedi i fideo o un o’i sesiynau tanllyd fynd yn feiral ar y rhyngrwyd.

Yn ystod y sesiwn mae Jackie Weaver, dynes a gafodd ei hanfon i roi trefn ar y cyfarfod, yn ceisio’i gorau i reoli cynghorwyr crac.

Mae hi bellach yn dipyn o seren – mae hyd yn oed wedi rhyddhau sengl – ac mi roedd hi ymhlith grŵp o banelwyr a fu’n trafod menywod mewn gwleidyddiaeth brynhawn ddydd Mercher.

Roedd Eluned Morgan (Gweinidog y Gymraeg, cyn-Aelod o’r Senedd Ewropeaidd, a Barwnes) hefyd yn aelod o’r panel, a bu hi’n rhannu ei chydymdeimladau.

“Un peth wnaeth fy nharo i o ran profiad Jackie oedd pa mor filain oedd awyrgylch y cyngor plwyf,” meddai. “Dydw i erioed wedi profi unrhyw beth mor filain â hynny.

“O fy mhrofiadau i yn Senedd yr Undeb Ewropeaidd, wnes i erioed brofi unrhyw beth mor wael â hynny,” meddai wedyn.

“Yn sicr wnes i erioed brofi unrhyw beth fel hynna yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae bach fwy o fin ar bethau yn y Senedd, a bod yn onest.

“Ond dydw i erioed wedi profi unrhyw beth sy’n cymharu â phrofiad Jackie.”

Tua diwedd y sesiwn, pan holwyd os oedd ganddi arwres wleidyddol, dywedodd Eluned Morgan y canlynol: “Mae gen i arwres newydd yn awr, sef Jackie Weaver”.

Cynrychiolaeth gydradd

Codwyd sawl pwynt difrifol arall yn ystod y sesiwn hefyd.

Pwysleisiodd Eluned Morgan bod menywod wedi elwa o gamau bwriadol i sicrhau cynrychiolaeth gydradd yng Nghymru.

A rhannodd ei phryderon nad oedd ymdrechion tebyg ar lefelau gwleidyddol is.

“Hoffwn allu dweud ein bod y broblem [o gynrychiolaeth] wedi’i datrys, ond dyw hynny ddim yn wir, mae arna i ofn,” meddai.

“Does gennym ni ddim y gynrychiolaeth yna ar lefel llywodraeth leol. Nid yw wedi gweithio lle nad oes gennym ni’r mecanwaith. Rhaid i ni gael rhagor o fenywod i’r safleoedd hynny.

“A Jackie, mae’n wych gweld menywod yn dweud: ‘Nid fel’na mae pethau’n gweithio. Fel’ma mae pethau’n gweithio. Rydym yn gweithio yn unol â rheolau, a dw i ddim yn mynd i oddef chi’n fy nhrin i fel hynna.’”

Ymhlith y cyfranwyr eraill at y drafodaeth oedd cyn-Arweinydd Cyngor Casnewydd, Deborah Ann Wilcox, a Helen Cunningham, ymgeisydd Llafur yn etholiad y Senedd.

Y fideo feiral

Yn siarad am y fideo feiral dywedodd Jackie Weaver bod y cyfan yn “storm berffaith”.

“Daeth llawer o bethau at ei gilydd ar yr un pryd,” meddai. “Dw i’n credu roedd pawb angen rhywfaint o gomedi bryd hynny!”

Allwch weld y fideo islaw…