Mae’r cwêst i farwolaeth Sarah Everard wedi’i agor ym Maidstone, Caint heddiw (Mawrth 18).

Roedd ei rhieni, a’i brawd a’i chwaer, yn y llys i glywed yr achos, a oedd yn cael ei arwain gan yr uwch-grwner Patricia Harding.

Cafodd y cwêst ei agor, cyn cael ei ohirio nes fydd yr ymchwiliad i’w marwolaeth wedi dod i ben.

Diflaniad Sarah Everard

Diflannodd Sarah Everard wrth gerdded adref o dŷ ffrind yn Clapham, de Llundain ar Fawrth 3.

Roedd Sarah Everard wedi bod yn cerdded trwy Clapham Common wrth fynd adref i Brixton, sy’n daith o ryw 50 munud ar droed.

Cafodd ei gweld ddiwethaf ar gamera yn cerdded ar hyd ffordd A205 tuag at Tulse Hill am oddeutu 9.30yh.

Roedd ei chariad wedi cysylltu â’r heddlu i ddweud ei bod hi ar goll ar Fawrth 4.

Cafodd ei chorff ei ganfod yn guddiedig mewn coedwig yn Ashford, Caint, ar Fawrth 10.

Mae Wayne Couzens, plismon yn Llundain sy’n cael ei gyhuddo o lofruddio a herwgipio Sarah Everard, wedi ymddangos yn y llys ddoe (Mawrth 17).

Cafodd y gŵr 48 oed ei gadw yn y ddalfa, a gosodwyd dyddiad yr achos ar gyfer Hydref 25.

Bydd Wayne Couzens yn ymddangos nesaf yn y llys ar Orffennaf 9 ar gyfer gwrandawiad i gyflwyno ple.

Gwylnosau

Mae marwolaeth Sarah Everard wedi sbarduno gwylnosau ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhai yng Nghaerdydd, er cof amdani ac i alw am fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod.

Yn Llundain, cafodd plismyn eu gweld yn gafael mewn menywod ac yn eu tywys i ffwrdd mewn cyffion, ac mae Heddlu Llundain wedi bod dan y lach yn sgil eu hymddygiad dros y penwythnos.

Ar y llaw arall, roedd y Gweinidog Addysg, wedi canmol yr heddlu yng Nghymru am ymateb yn “sensitif” i’r gwylnosau.