Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhywfaint o oedi â chyflenwadau brechlynnau fis nesa’.

Roedd disgwyl y byddai cyflenwad yn cyrraedd cyn canol mis Ebrill, ond bellach mae wedi dod i’r amlwg y bydd y cyflenwad hwnnw yn cyrraedd bedair wythnos yn hwyr.

Daw hyn wedi i wasanaeth iechyd Lloegr gadarnhau y bydd “cwymp sylweddol” i gyflenwadau brechlynnau covid-19 fis nesa’.

“Rydym yn gallu cynnig brechiad i gynifer o bobl yng Nghymru ag y mae’r cyflenwad yn caniatáu,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. “Pe bai gennym fwy gallem wneud mwy.

“Mae’r Tasglu Brechu wedi rhoi gwybod i ni y bydd cyflenwadau ychwanegol o frechlynnau, yr oeddem yn disgwyl [y byddent yn] cyrraedd y Deyrnas Unedig cyn canol mis Ebrill, bellach yn cael eu darparu hyd at bedair wythnos yn hwyrach na’r bwriad gwreiddiol.

“Cafodd cyflenwadau sylweddol o frechlyn AstraZeneca eu dosbarthu i ganolfannau brechu a meddygon teulu’r wythnos diwethaf ac mae cyflenwadau ychwanegol yn cael eu darparu’r wythnos hon.”

Datganiad Vaughan Gething: “y cyflenwad yw’r ffactor gwan”

Mewn datganiad ysgrifenedig fore dydd Iau, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AoS, fod y rhaglen frechu “wedi bod yn eithriadol dros yr ychydig fisoedd diwethaf” gan grybwyll bod y rhaglen yn gallu brechu ar gyfradd o tua 1% o’r boblogaeth bob diwrnod “pan fo cyflenwadau ar gael”.

Ond dywedodd mai’r “cyflenwad yw’r ffactor gwan”:

“Rydw i wedi bod yn glir drwy gydol y cyfnod mai’r cyflenwad yw’r ffactor gwan yn ein rhaglen. Pe bai gennym ragor o gyflenwadau, gallem frechu’n gynt,” meddai yn y datganiad.

“Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd na ddylai hyn effeithio ar ein gallu i gyflawni ein hymrwymiadau i gynnig dos cyntaf y brechlyn i’r 9 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill a phob oedolyn cymwys arall erbyn diwedd mis Gorffennaf.”

“Fodd bynnag, fel rydym wedi bod yn gwneud ar hyd y daith, rydym yn edrych ar yn union beth mae’r gostyngiad hwn yn ei olygu ar gyfer ein rhaglen yng Nghymru,” meddai datganiad Vaughan Gething.

“Byddwn yn parhau i drafod â Llywodraeth y DU gyda’r nod o sicrhau ein bod yn cyrraedd y cerrig milltir yn ein strategaeth genedlaethol.

“Cafodd cyflenwadau sylweddol o’r brechlyn eu darparu i ganolfannau brechu a phractisau meddygon teulu wythnos diwethaf, ac mae mwy o gyflenwadau yn cael eu danfon yr wythnos hon. Felly ni fydd y rheini sydd wedi derbyn eu hapwyntiad ar gyfer y brechlyn yn cael eu heffeithio.

“Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi ein ail ddiweddariad i’n strategaeth genedlaethol. Byddwn yn edrych eto ar sut rydym yn cyrraedd ein cerrig milltir wrth i ni gwblhau’r diweddariad hwn dros y diwrnodau nesaf.”

Rhywfaint o oedi “heb amheuaeth”

Fodd bynnag, yn ddiweddarach dywedodd Mr Gething wrth ITV Wales News y byddai’r oedi’n arafu pethau rywfaint, “yn enwedig i bobl dros 40 oed a than 50 oed… mae hynny’n debygol o gymryd ychydig yn hirach nag yr oeddem yn ei feddwl.”

Dywedodd hefyd ei bod “yn bosibl” yn gellid cyflawni’r ymrwymiadau i’r 9 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill ond bod “mwy o risg o amgylch hynny bellach”

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd yn cael rhywfaint o effaith.

Dywedodd Mark Drakefor wrth Newyddion S4C: “Mae’n mynd i gael effaith arnon ni, mae hwnna heb amheuaeth achos ni wedi colli chwarter miliwn o ddosys dros y pedair wythnos i ddod”

Ond dywedodd y bydd “pawb yn gweithio’n galed nawr i weld sut ydyn ni’n gallu ymdopi yn y cyd-destun newydd” er mwyn “trial cadw at beth ni wedi dweud yn barod”.

Cefndir

Dywedodd GIG Lloegr wrth arweinwyr iechyd ddoe (dydd Mercher 17 Mawrth) i ddisgwyl diffygion sylweddol mewn dosau brechlyn o 29 Mawrth ymlaen, a hynny am tua phedair wythnos.

Dywedodd GIG Lloegr na ddylai pobl o dan 50 oed gael eu hapwyntiadau cyntaf oni bai eu bod mewn grŵp blaenoriaeth uwch.

Oedi gyda danfoniadau o India – a’r angen i ailbrofi llwyth o 1.7 miliwn dos – sydd y tu ôl i’r ddiffyg disgwyliedig yn y cyflenwad o frechlynnau coronafeirws ym mis Ebrill, yn ôl Matt Hancock, Gweinidog Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Mr Hancock wrth ASau yn San Steffan: “Mae gennym oedi cyn i’r danfoniadau o Sefydliad Serwm India gyrraedd.

“Nawr, rwyf am nodi fy niolch i Sefydliad Serwm India am y gwaith anhygoel y mae yn ei wneud yn cynhyrchu brechlyn nid yn unig i ni yn y DU, ond i’r byd i gyd.”

Fodd bynnag, ni wnaeth Stryd Downing wadu awgrym gan bennaeth Sefydliad Serwm India fod llywodraeth India yn rhwystro allforion o frechlyn AstraZeneca dros dro.

Dywedodd y prif weithredwr Adar Poonawalla wrth The Telegraph: “Mae’n ddibynnol ar India yn unig ac nid oes a wnelo hyn ddim â’r SII (Sefydliad Serwm India). Mae’n ymwneud â llywodraeth India yn caniatáu mwy o ddosau i’r Deyrnas Unedig.”

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog: “Byddwn yn cyfeirio’n ôl at yr hyn y mae’r Sefydliad Serwm wedi’i ddweud a’r ffaith eu bod yn un o weithgynhyrchwyr brechlyn Rhydychen/AstraZeneca.

“Rydym yn ei gynhyrchu yma yn y Deyrnas Unedig a chaiff ei gynhyrchu mewn mannau eraill hefyd felly byddwn yn parhau i weithio gyda gweithgynhyrchwyr y brechlyn.”

Pan ofynnwyd iddo a yw Llywodraeth y DU mewn trafodaethau gyda llywodraeth India, dywedodd: “Rydym mewn cysylltiad cyson â llywodraethau eraill ledled y byd.”

Y rhaglen frechu

Erbyn diwedd dydd Mercher 17 Mawrth, roedd 37.4% o gyfanswm poblogaeth Cymru wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn, ac mae hynny’n 46.8% o bobl 18 oed a throsodd.

Roedd cyfanswm o 94.6% o bobl 80 oed a throsodd wedi derbyn eu dos cyntaf, ynghyd â 95.2% o bobl 75-79 oed, 94.6% o bobl 70-74 oed, 91.6% o bobl 65-69 oed a 65.3% o bobl 60-64 oed.

Y ffigur diweddaraf ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal oedolion hŷn yw 95.8%, ar gyfer gweithwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, y ffigur yw 85.9%, ar gyfer gweithwyr gofal iechyd mae’n 89.3%, ac ar gyfer pobl 16-69 oed sy’n agored iawn i niwed yn glinigol, mae’n 89.9%.

Ffigurau diweddaraf

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (18 Mawrth) fod cyfanswm o 1,180,155 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’u rhoi yng Nghymru, cynnydd o 22,904 o’r diwrnod blaenorol.

Dywedodd yr asiantaeth fod 304,411 o ail ddosau wedi’u rhoi hefyd, cynnydd o 15,226.

Hyd yma mae 94.6% o bobol dros 80 oed yng Nghymru wedi derbyn dos cyntaf, ac mae 12.9% o’r grŵp oedran hwnnw wedi derbyn dau ddos.

Cofnodwyd 297 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 207,237.

Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bedair marwolaeth arall, gan fynd â’r cyfanswm hwnnw ers dechrau’r pandemig i 5,467.