Mae Wayne Couzens, y plismon yn Llundain sy’n cael ei gyhuddo o lofruddio a herwgipio Sarah Everard, wedi ymddangos yn y llys.

Cafodd y gŵr 48 oed ei gadw yn y ddalfa a gosodwyd dyddiad yr achos ar gyfer Hydref 25.

Bydd Wayne Couzens yn ymddangos nesaf yn y llys ar Orffennaf 9 ar gyfer gwrandawiad pledio, pan ofynnir iddo bledio naill ai’n euog neu’n ddieuog.

Ymddangosodd Wayne Couzens drwy gyswllt fideo yn yr Old Bailey ac roedd yn ymddangos fod ganddo anaf ar ei ben.

Yr wythnos diwethaf, cafodd ei gludo i’r ysbyty ddwywaith am anafiadau i’w ben yr oedd wedi’u cael tra yn y ddalfa.

Dim ond i gadarnhau ei enw a’i ddyddiad geni y siaradodd.

Ymunodd aelodau o deulu Sarah Everard â’r gwrandawiad yn llys drwy gyswllt fideo, yn ôl swyddogion y llys.

Dywedodd yr erlynydd Tom Little QC bod amgylchiadau’r achos wedi arwain at “ymchwiliad sylweddol ac eang iawn”.

Dywedodd wrth y llys fod yr achos wedi denu “sylw digynsail gan y cyfryngau a’r cyhoedd bron”.

Diflaniad Sarah Everard

Diflannodd Sarah Everard wrth gerdded adref o dŷ ffrind yn Clapham, de Llundain.

Roedd Sarah Everard wedi bod yn cerdded trwy Clapham Common wrth fynd adref i Brixton, sy’n daith o ryw 50 munud ar droed.

Cafodd ei gweld ddiwethaf ar gamera yn cerdded ar hyd ffordd A205 tuag at Tulse Hill am oddeutu 9.30yh.

Roedd ei chariad wedi cysylltu â’r heddlu i ddweud ei bod hi ar goll ar Fawrth 4.

Cafodd ei chorff ei ganfod yn guddiedig mewn ardal goedwidog yn Ashford, Caint, ar Fawrth 10.

Fe’i darganfuwyd y tu mewn i fag adeiladwr mawr a daeth cadarnhad mai hi oedd y corff drwy ei chofnodion deintyddol.

Mae archwiliad post-mortem wedi’i gynnal ond nid oes unrhyw achos marwolaeth wedi’i roi eto.

Bydd y cwest i’w marwolaeth yn agor ddydd Iau (Mawrth 18), yn Maidstone, meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Caint.

Gwylnosau

Mae marwolaeth Sarah Everard wedi sbarduno gwylnosau ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Caerdydd, er cof amdani ac i alw am weithredu i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod.

Yn Llundain, cafodd plismyn eu gweld yn gafael mewn menywod ac yn eu tywys nhw i ffwrdd mewn cyffion.

Galwodd Priti Patel a Sadiq Khan yn galw am ymchwiliad annibynnol i ymddygiad yr heddlu yn ystod yr wylnos.

Roedd Gweinidog Addysg, ar y llaw arall, wedi canmol yr heddlu yng Nghymru am eu hymateb “sensitif” i wylnosau.

plismon sydd dan amheuaeth

Fe fu Wayne Couzens yn gweithio’n fwyaf diweddar yn adran warchodaeth seneddol a diplomyddol y Gwnstabliaeth, uned sy’n gyfrifol am warchod ystâd San Steffan, sy’n cynnwys Downing Street a Phalas Westminster, yn ogystal â sawl llysgenhadaeth.

Yn ôl yr heddlu, doedd e ddim ar ddyletswydd pan ddiflannodd Sarah Everard, swyddog marchnata 33 oed.

Mae Couzens yn byw yn Deal yng Nghaint gyda’i wraig a’u dau o blant ac mae lle i gredu ei fod e’n gweithio mewn garej yn Dover yn y gorffennol, cwmni teuluol yr oedd ei frawd yn gweithio iddo cyn iddo yntau hefyd ymuno â’r heddlu.

Roedd Couzens hefyd yn aelod o’r lluoedd arfog am ddwy flynedd o 2002.

Cyhuddo plismon o gipio a llofruddio Sarah Everard

Fe ddaw wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i’r modd y gwnaeth yr heddlu ymdrin â honiadau bod Wayne Couzens wedi dinoethi ei hun cyn ei diflaniad

Gwylnos Sarah Everard: Priti Patel a Sadiq Khan yn galw am ymchwiliad i ymddygiad yr heddlu

Ysgrifennydd Cartref San Steffan eisiau ymchwiliad er mwyn “dysgu gwersi” a Maer Llundain yn dweud bod yr ymddygiad yn “annerbyniol”

Cynnal gwylnos #AdennillyStrydoedd yng Nghaerdydd

Cadi Dafydd

“Roedden ni’n teimlo bod rhaid i ni wneud rhywbeth,” meddai un fam sy’n rhan o drefnu’r wylnos