Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (yr IOPC) wedi dweud ei bod wedi cyflwyno rhagor o hysbysiadau camymddwyn i blismyn mewn perthynas ag arestio Mohamud Hassan.

Fel rhan o’r ymchwiliad, mae’r IOPC wedi cyflwyno hysbysiad camymddwyn i dri i o blismyn Heddlu De Cymru, yn ogystal ag i un swyddog cadw yn y ddalfa.

Daw hyn wedi i swyddog arall dderbyn hysbysiad camymddwyn fis yn ôl.

O’r pump hysbysiad I gad, mae tri yn ymwneud â’r adeg oedd Mr Hassan yn y ddalfa yn y swyddfa heddlu ym mae Caerdydd, tra bod dau yn ymwneud â gweithredoedd y plismyn a wnaeth fynd i gartref Mr Hassan ar y noson y cafodd ei arestio.

Y cefndir

Cafodd Mr Hassan ei arestio yn ei gartref yng Nghaerdydd ar noson Ionawr 8 ar amheuaeth o dorri’r heddwch ond cafodd ei ryddhau y bore canlynol yn ddi-gyhuddiad.

Cafodd ei ganfod yn farw yn ei eiddo yn ddiweddarach ar 9 Ionawr, gyda’i deulu’n honni ei fod wedi dioddef ymosodiad tra’i fod yn y ddalfa.

Cyfeiriwyd y mater gan Heddlu De Cymru at yr IOPC ar gyfer ymchwiliad annibynnol.

Cafodd marwolaeth Mr Hassan gryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda Black Lives Matter Caerdydd a’r Fro yn galw am ymchwiliad “cyflym a thryloyw”, ac felly hefyd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Cafodd galwadau ymgyrchwyr am gyhoeddi fideo teledu cylch cyfyng a chamera corff yr heddlu eu gwrthod rhag ofn y bydd eu hangen ar gyfer achosion troseddol, achosion camymddwyn neu gwest.

Neithiwr, cafodd protest ei chynnal tu allan i’r swyddfa heddlu ym Mae Caerdydd yn dilyn marwolaeth Sarah Everard.

Roedd y brotest, hefyd, yn mynnu diwedd i greulondeb yr heddlu, yr hawl i brotestio, a Black Lives Matter.

Yr hysbysiadau

Yn ôl yr IOPC, mae’r tri hysbysiad canlynol yn ymwneud â’i gyfnod yn y ddalfa:

  • Hysbysiad ar lefel camymddwyn difrifol i swyddog a allai fod wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu tuag at ddyletswyddau a chyfrifoldebau, a gonestrwydd a chywirdeb. Mae’r IOPC yn archwilio digonolrwydd y gwiriadau llesiant, a oedd y rhain yn cyrraedd y safonau, a’r hyn nododd y swyddog ar y cofnod dalfa.
  • Hysbysiad ar lefel camymddwyn i swyddog heddlu yn ymwneud â’r grym a ddefnyddiodd wrth dywys Mr Hassan wedi iddo gyrraedd y ddalfa. Mae’r IPOC yn archwilio i weld a oedd y grym a gafodd ei ddefnyddio yn hanfodol, cymesur, a rhesymol dan yr amgylchiadau.
  • Hysbysiad ar lefel camymddwyn i swyddog cadw yn y ddalfa a allai fod wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu tuag at ddyletswyddau a chyfrifoldebau yn ymwneud â digonolrwydd y gwiriadau llesiant, ac a gafodd y rhain eu gwneud i’r safon gywir.

Wrth ystyried digwyddiadau’r noson y cafodd Mr Hassan ei arestio, mae’r IOPC wedi cyflwyno dau hysbysiad camymddwyn yn ymwneud â phenderfyniad y swyddogion i ddefnyddio grym yn erbyn Mr Hassan yn ei gartref.

Maen nhw’n ystyried a oedd y defnydd o rym yn hanfodol ac yn gymesur â’r sefyllfa.

Dywedodd y llefarydd nad yw’r hysbysiad camymddwyn “o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi cyflawni unrhyw gamwedd”, ond bod ymchwiliad yn mynd rhagddo i ymddygiad y swyddogion.

Y gosb fwyaf y gellir ei gosod os yw swyddog yn torri safonau proffesiynol ar lefel camymddwyn difrifol yw ei ddiswyddo, a’r gosb fwyaf difrifol y gellir ei gosod os gwelir bod swyddog wedi torri safonau proffesiynol ar lefel camymddwyn yw rhybudd ysgrifenedig.

Ymateb yr IOPC

Dywedodd cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: “Pan mae cwestiwn yn codi ynghylch swyddogion yn torri safonau proffesiynol yn ystod ymchwiliad, rydym yn rhoi hysbysiad ymddygiad iddynt er mwyn rhoi gwybod eu bod nhw’n cael eu harchwilio.

“Mae teulu Mr Hassan, a Heddlu De Cymru wedi cael gwybod am yr hysbysiadau hyn.

“Rydym yn parhau i adolygu hysbysiadau camymddwyn yn ystod ymchwiliadiau. Ar ddiwedd ymchwiliad, mae’r IOPC yn penderfynu a oes gan unrhyw swyddog o dan hysbysiad achos disgyblu i’w ateb.”

“Fel rydw i wedi dweud eisoes, mae achos fel hyn yn cymryd amser a gofynnwn i bobol fod yn amyneddgar tra bod yr archwiliad yn mynd yn ei flaen.”

Archwiliad post-mortem wedi methu â sefydlu achos marwolaeth Mohamud Hassan

Bu farw oriau’n unig ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu

“Dim tystiolaeth” fod y defnydd o taser ynghlwm â marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan

Ymchwilwyr yn cyhoeddi diweddariad wedi i Mohamud Mohammed Hassan farw ar ôl bod yn y ddalfa