Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi eu bod wedi darganfod corff wrth chwilio am Susan Smith.

Doedd neb wedi ei gweld hi ers 1.30yp ddydd Sadwrn (Chwefror 27), pan oedd hi allan yn cerdded ger parc gwyliau Bae Caerfyrddin yng Nghydweli.

Roedd hi’n cerdded ar hyd y traeth rhwng Llanismel a Glanyfferi yn aml.

Dywedodd yr heddlu nad oes rheswm dros awgrymu unrhyw amgylchiadau amheus ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: “Gallwn gadarnhau bod swyddogion sy’n gweithio ar chwilio am fenyw goll, Susan Smith, wedi darganfod corff ar draeth ger Solfach yn Sir Benfro.

“Mae teulu Mrs Smith wedi cael gwybod am y sefyllfa, fodd bynnag, nid yw’r broses adnabod ffurfiol wedi digwydd eto.

“Ar hyn o bryd does dim rheswm i awgrymu unrhyw amgylchiadau amheus.”