Mae Dug Caeredin wedi gadael yr ysbyty, ar ôl bod yno ers mis yn derbyn triniaeth, ac mae bellach ôl yng Nghastell Windsor.
Yn wreiddiol, derbyniodd driniaeth ar gyfer haint, ond tra’r oedd yn yr ysbyty cafodd lawdriniaeth ar y galon.
Mewn datganiad dywed Palas Buckingham i’r driniaeth fod yn llwyddiannus a bod yn Dug yn diolch i bawb a fu’n gofalu amdano.
Mae’r Dug o fewn ychydig wythnosau I gyrraedd ei gant oed.