Mewn mis, mae gostyngiad o dros 75% wedi bod yn nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal sy’n ymwneud â Covid-19 yng Nghymru a Lloegr.

Roedd Covid-19 yn cael ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaethau 2,175 o breswylwyr cartrefi gofal ar yr wythnos oedd yn gorffen ar Chwefror 5, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Erbyn yr wythnos oedd yn gorffen ar Fawrth 5, roedd y ffigurau wythnosol yn dangos mai 467 o’r marwolaethau mewn cartrefi gofal oedd yn ymwneud â Covid-19 – gostyngiad o 78.5% mewn pedair wythnos.

Mae’r ystadegau yn cynnwys marwolaethau preswylwyr gofal lle bynnag yr oeddent, nid yn unig y rhai fu farw mewn cartrefi gofal.

Yn ogystal, mae’r ystadegau yn dangos fod nifer y marwolaethau ymysg preswylwyr cartrefi gofal yn is na’r cyfartaledd ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn am dair wythnos yn olynol.

Bu farw 2,531 o breswylwyr cartrefi gofal yn yr wythnos yn gorffen ar Fawrth 5 eleni, o gymharu â chyfartaledd o 3,005 yr wythnos rhwng 2015 a 2019 – gostyngiad o 15.7%.

Ers dechrau’r pandemig, mae 41,458 o breswylwyr cartrefi gofal wedi marw yng Nghymru a Lloegr gyda Covid-19.

Mae marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 ymysg pobol dros 80 oed wedi gostwng yn sylweddol hefyd, gyda lleihad o 86% ers penllanw’r ail don.

Rhwng yr wythnos yn gorffen ar Ionawr 22 a’r wythnos yn gorffen ar Fawrth 5, bu lleihad o 86% yn nifer marwolaethau ymysg pobol 75-79 oed, lleihad o 85% ymysg pobol 70-74 oed, 74% ymysg pobol 65-69 oed, a 72% ymysg pobol 60-63 oed.

Ar yr wythnos yn gorffen ar Fawrth 5, bu 2,105 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru a Lloegr – y cyfanswm lleiaf ers dechrau mis Tachwedd.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, bu farw un claf arall o’r coronafeirws yng Nghymru dros y cyfnod 24-awr diwethaf, gan godi’r cyfanswm i 5,455. Cafodd 142 o achosion newydd eu cadarnhau dros yr un cyfnod.

Dywed iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfanswm o 1,139,866o ddosiaju cyntaf o’r brechlyn wedi cael ei roi yng Nghymru bellach, cynnydd o 26,368 mewa diwrnod, ac mae 272,983 o bobl wedi cael ail ddos hefyd.