Mae arbenigwyr iechyd y byd yn cyfarfod heddiw (Mawrth 16) i adolygu diogelwch brechlyn AstraZeneca, wedi i nifer o wledydd atal ei ddefnydd yn sgil pryderon ei fod yn achosi i’r gwaed geulo.
Daw hyn wrth i Sefydliad Iechyd y Byd annog gwledydd i barhau i ddefnyddio’r brechlyn.
Bydd pwyllgor cynghorol byd-eang ar ddiogelwch brechlynnau Sefydliad Iechyd y Byd yn cyfarfod heddiw, tra bydd Asiantaeth Feddygol Ewrop hefyd yn cyfarfod, gyda’r bwriad o gyhoeddi cyngor pellach ddydd Iau.
“Nid ydym am i bobol fynd i banig”
“Nid ydym am i bobol fynd i banic,” gan nad oes cysylltiad wedi’i ddarganfod rhwng y brechlyn a’r gwaed yn ceulo, meddai Dr Soumya Swaminathan, Prif Wyddonydd Sefydliad Iechyd y Byd,
Mae achosion o’r gwaed yn ceulo “yn llai ymhlith pobol sydd wedi derbyn y brechlyn, nag ymysg y boblogaeth fel arall”, ychwanegodd.
“Bob blwyddyn, mae miloedd o bobol yn yr Undeb Ewropeaidd yn datblygu tolchenni gwaed am nifer o wahanol resymau,” meddai llefarydd ar ran Asiantaeth Feddygol Ewrop.
Yn ôl AstraZeneca, mae 17 miliwn o bobol wedi derbyn y brechlyn yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, a dim ond 40 achos o geulo’r gwaed sydd wedi dod i’r amlwg.
Atal y brechlyn yn “drychineb”
Gallai’r penderfyniad i atal y defnydd o frechlynnau AstraZeneca fod yn “drychineb” i niferoedd y bobol sy’n derbyn y brechlyn yn Ewrop, yn ôl Peter Openshaw, athro mewn meddyginiaeth arbrofol yn Llundain.
“Mae’n amlwg fod y manteision o gael y brechlyn yn fwy na’r pryderon ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu tolchenni gwaed, yn fy marn i.”
Yn ôl yr Athro Anthony Harnden, Dirprwy Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor Brechu ac Imiwnedd, mae risg uwch i’r gwaed geulo yn sgil Covid-19, nag yn sgil unrhyw frechlyn.
“Mae’n bwysig cofio bod Covid yn salwch fasgwlaidd, ac mae’n achosi i’r gwaed geulo ar draws y corff.
“Felly, mae’r risg o’r gwaed yn ceulo yn sgil Covid yn uwch o lawer nag unrhyw risg posib sy’n dod yn sgil y brechlyn.”
Daw hyn wrth i nifer o wledydd, gan gynnwys yr Almaen, Ffrainc, yr Eidal, Sbaen, Denmarc, a Norwy, atal y defnydd dro dro.