Wrth I fwy na hanner gwledydd yr Undeb Ewropeaidd atal dros dro eu defnydd o frechlyn AstraZeneca yn erbyn y coronafeirws, mae disgwyl cyhoeddiad buan gan Asiantaeth Feddygol Ewrop ar ei ddiogelwch.

Mae’r Asiantaeth eisoes wedi taflu amheuon am yr honiadau fod y brechlyn yn gallu arwain at geulo gwaed, gan nodi bod hyn yn gyflwr sy’n effeithio ar filoedd lawer o bobl bob blwyddyn.

“Mae’n ymddangos nad yw’r nifer o ddigwyddiadau thromboembolig (gwaed yn ceulo) mewn pobl sy’n cael eu brechu yn ddim uwch nag yn y boblogaeth yn gyffredinol,” mddai mewn datganiad.

Mae’r Asiantaeth yn dal wrthi ar hyn o bryd yn adolygu’r data gan gydweithio’n agos gydag AstraZeneca, arbenigwyr mewn anwylderau gwaed a awdurdodau eraill gan gynnwys awdurdod rheoleiddio meddyginiaethau ym Mhrydain.

Mae disgwyl cyfarfod arbennig o’r asiantaeth ddydd Iau ond gall cyhoeddiad ddod cyn hynny.

Yn y cyfamser, mae arweinwyr gwleidyddol ym Mhrydain wedi parhau i bwysleisio diogelwch y brechlyn.

Dywed y prif Weinidog Boris Johnson fod yr awdurdod rheoli ym Mhrydain (MHRA) yn “un o’r rheoleiddwyr mwyaf llym a phrofiadol yn y byd”.

Dywed Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, hefyd, nad oes unrhyw dystiolaeth sy’n cysylltu’r brechlyn â cheulo gwaed.

“Cyn gynted ag y bydda i’n cael y gwahoddiad i gael fy mrechu, fe fyddaf yno heb betruso, pa frechlyn bynnag fydd yn cael ei gynnig imi,” meddai. “Dw i’n pwyso ar unrhyw un sy’n cael y gwahoddiad i ddod a chael eu brechu.”

Yr Almaen, Ffrainc a’r Eidal yn atal brechlyn AstraZeneca yn sgil pryderon ynghylch tolchenni gwaed

Mae disgwyl i’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wneud dyfarniad ar y brechlyn yfory.