Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi y bydd coedlannau coffa’n cael eu plannu er cof am y bobol a fu farw gyda Covid-19.

Mae hyn flwyddyn union ers i’r claf cyntaf yng Nghymru farw o’r haint.

Bydd dwy goedlan newydd yn cael eu plannu – un yn y Gogledd ac un yn y De.

Dywedodd y Prif Weinidog y bydd y coedlannau yn symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig yn ogystal â symbol o adfywio ac adnewyddu wrth i’r coedlannau newydd dyfu.

Bydd y coedlannau hefyd yn rhywle i’r cyhoedd gofio am y pandemig a’r effaith enfawr y mae wedi’i gael ar ein bywydau.

Bydd amryw o rywogaethau o goed yn cael eu plannu yn y coedlannau, gan eu gwneud yn wydn i amgylchedd newidiol.

“Mae heddiw’n ddiwrnod trist dros ben gan ein bod ni’n nodi blwyddyn ers i’r person cyntaf yng Nghymru farw o coronafeirws,” meddai Mark Drakeford.

“Ers y diwrnod hwnnw mae llawer gormod o bobl wedi marw’n llawer rhy gynnar.

“Rydym yn eu cofio nhw heddiw ac yn eu cadw yn ein calonnau ac yn ein meddyliau.

“Heddiw, rwy’n cyhoeddi y bydd dwy goedlan newydd yn cael eu plannu – un yn y Gogledd ac un yn y De – fel mannau coffa byw a pharhaol i’r bobl a fu farw.

“Bydd y coedlannau hyn yn tyfu yn fannau lle gall teuluoedd ac eraill ddod i gofio am yr holl bobl a gollwyd.

“Mae’r pandemig wedi taflu cysgod hir dros ein bywydau ers blwyddyn, ond gallwn hefyd edrych yn obeithiol tua’r dyfodol.”

‘Amser priodol i gofio’

“Heddiw, mae’n briodol ein bod ni’n cofio pawb sydd wedi marw gyda Covid, yr holl fywydau eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan y feirws, a goblygiadau eraill y pandemig,” meddai Angela Burns, Aelod o Senedd Cymru dros y Ceidwadwyr.

“Waeth pa mor ysgytwol fu’r amser, mae’r ystadegau yn dangos fod Cymru wedi troi cornel yn dilyn ymdrechion rhagorol staff y Gwasanaeth Iechyd, a gweithgareddau gofalus cymaint o bobol eraill wrth geisio atal lledaeniad y coronafeirws.

“Felly, er bod hwn yn amser trist, mae’n amser i fod yn obeithiol, er yn ofalus, yng Nghymru.”