Mae arolwg newydd yn awgrymu mai dim ond un o bob pump o bobl sydd eisau mynd yn ôl i’w lle gwaith bum diwrnod yr wythnos ar ôl i gyfyngiadau’r coronafeirws ddod i ben.

Mae’r arolwg, a gafodd ei gomisynu gan yr ymgyrch dros Wythnos 4 Diwrnod, yn dangos bod mwy na hanner y bobl eisiau gweld newidiadau parhaol i’w bywyd gwaith.

Roedd cefnogaeth i’r syniad o weithio’n rhannol o gartref ac o’r gwaith, a hefyd i wythnos waith bedwar-diwrnod heb lai o dâl.

Meddai Joe Ryle o’r ymgyrch Wythnos 4 Diwrnod: “Mae byd gwaith wedi newid am byth oherwydd y pandemig a does dim rheswm o gwbl pam y dylen ni ddychwelyd at yr hen ffyrdd hen ffasiwn o weithio.

“Rydym yn gweld mwy o mwy o gwmnïau yn troi at wythnos waith bedwar diwrnod ac mae cyfuniad o weithio o bell ac o’r swyddfa yn boblogaidd hefyd.

“Gyda gorweithio a phroblemau iechyd meddwl cysylltiedig â gwaith ar gynnydd, mae’n hanfodol ein bod ni’n adeiladu byd gwaith sy’n well na’r un oedd gennym cyn y pandemig.”