Mae elusennau wedi rhybuddio y gallai marwolaethau canser godi am y tro cyntaf mewn degawd yn y Deyrnas Unedig os na fydd y Llywodraeth yn gweithredu ar frys i fynd i’r afael â phroblemau sy’n deillio o’r pandemig.

Dywedodd One Cancer Voice, grŵp o 47 o elusennau canser Prydain, wrth raglen ‘Newsbeat’ BBC Radio 1 bod angen mwy o arian a staff i leihau’r cronni cynyddol mewn achosion o ganser.

Mae hefyd wedi gofyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael mwy o fynediad i gyfleusterau preifat.

Dywedodd Michelle Mitchell, pennaeth Cancer Research UK – sy’n arwain One Cancer Voice – wrth ‘Newsbeat’: “Rydym yn galw ar y llywodraeth i fuddsoddi mwy o arian i sicrhau bod y tagfeydd o achosion canser yn cael ei leihau a’i ddileu.

“Gallem wynebu, yn y wlad hon heddiw, y bydd y posibilrwydd o oroesi canser yn lleihau am y tro cyntaf ers degawdau.

“Dyna pam mae angen i’r llywodraeth weithredu ar frys.”

Mae ffigurau diweddar gan Wasanaeth Iechyd Lloegr yn dangos bod 171,231 o atgyfeiriadau canser brys wedi’u gwneud gan feddygon teulu ym mis Ionawr – gostyngiad o 11% ar y 191,852 yn yr un mis y flwyddyn flaenorol.

Mewn datganiad i ‘Newsbeat’, dywedodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae diagnosis a thriniaeth canser wedi parhau i fod yn flaenoriaeth drwy gydol y pandemig, gydag 1.86m o atgyfeiriadau brys a thros 477,000 o bobol yn derbyn triniaeth canser rhwng Mawrth 2020 ac Ionawr 2021.

“Rydym yn parhau i annog pobol i gysylltu â’u meddyg teulu os oes ganddynt symptomau.

“Fel rhan o’n buddsoddiad ychwanegol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae £1bn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i roi hwb i ddiagnosis a thriniaeth ar draws pob maes gofal yn y flwyddyn i ddod.”