Mae bron i 280,000 o bobol wedi marw o Covid-19 yn Brasil, gyda system gofal iechyd dinasoedd mawr y wlad yn cael trafferth ymdopi â’r pwysau sydd arnynt.
Daw hyn wrth i’r Arlywydd Jair Bolsonaro gael gwared ar ei drydydd Gweinidog Iechyd yn ystod y pandemig – gyda’i ddewis cyntaf i gymryd ei leeisoes wedi gwrthod y swydd.
Cafodd y Cadfridog Eduardo Pazuello y swydd ym mis Mai y llynedd fel arbenigwr logisteg, ond nid oedd ganddo unrhyw brofiad blaenorol ym maes gofal iechyd.
Dywedodd Eduardo Pazuello mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun (Mawrth 15) fod yr Arlywydd yn ad-drefnu ei weinyddiaeth ac yn bwriadu penodi rhywun newydd i’r swydd.
Gadawodd ddau ragflaenydd Eduardo Pazuello y swydd ar ôl anghytundebau â’r Arlywydd Jair Bolsonaro.
Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd y cardiolegydd Ludhmila Hajjar fod yr Arlywydd wedi’i chyfweld i gymryd lle Eduardo Pazuello ond ei bod wedi gwrthod y swydd.
Dywedodd wrth y sianel deledu Globo News fod gwyddoniaeth eisoes wedi dyfarnu yn erbyn triniaethau y mae’r Arlywydd Jair Bolsonaro a’i gefnogwyr yn parhau i hyrwyddo, fel cyffuriau i ymladd malaria.
Mae prif lys y wlad hefyd yn ymchwilio i Eduardo Pazuello am esgeulustod honedig a gyfrannodd at gwymp y system gofal iechyd yn nhalaith Amazonas yn gynharach eleni.
Wythnosau’n ddiweddarach anfonodd ei weinyddiaeth gyflenwad o frechlynnau oedd fod ar gyfer talaith Amazonas i dalaith Amapa, tra bod cyflenwad Amapa wedi cael ei anfon i Amazonas.
Mae’n debyg bod hyn wedi digwydd oherwydd ei fod wedi cymysgu’r talfyriadau’r ddwy dalaith.