Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ychwanegu ei lais at y rheini sy’n dadlau bod brechlyn Rhydychen/AstraZeneca yn ddiogel.

“Mae fy neges i bobl Cymru yn syml iawn – mae brechlyn Rhydychen yn ddiogel,” meddai yn y Senedd y pnawn yma.

“Dyw’r pryderon sydd wedi cael eu mynegi amdano mewn lleoedd eraill ddim yn cael eu rhannu gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau yma yng Nghymru, dydyn nhw ddim yn cael eu rhannu gan Sefydliad Iechyd y Byd, na asiantaeth rheoleiddio meddyginiaethau Ewrop, ac yn sicr dydyn nhw ddim yn cael eu rhannu gan ein prif swyddog meddygon a’n ymgynghorwyr gwyddonol.”

Dywedodd ei fod ef a’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi siarad gyda phrif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ddydd Llun, am y dystiolaeth ynglyn â’r brechiad.

“Mae achosion o geulo gwaed yn digwydd drwy’r adeg yn y boblogaeth a dyw’r brechlyn ddim yn cynyddu eich risg o hynny,” meddai.

“Does gen i ddim eisiau i neb yng Nghymru a allai fod yn betrusgar ynghylch y brechlyn i ddod yn fwy petrusgar oherwydd y straeon y gallan nhw fod wedi eu gweld neu eu clywed.”