Mae crwner wedi cadarnhau bod esgeulustod a chreulondeb staff a pherchnogion cartref gofal wedi cyfrannu’n sylweddol at farwolaeth chwech o’r preswylwyr.

Dechreuodd Crwner Cynorthwyol Gwent Geraint Williams grynhoi ar ôl clywed chwe wythnos o dystiolaeth i farwolaethau’r trigolion yng nghartref nyrsio Brithdir yn Nhredegar Newydd, Sir Caerffili.

Cyhuddodd y perchnogion a’r staff yng nghartref o “fradychu’n llwyr yr ymddiriedolaeth” a osodwyd ynddynt gan berthnasau’r preswylwyr drwy eu cadw yn y tywyllwch o’r safonau gofal gwael.

Roedd y cwest yn edrych ar farwolaethau cyn-drigolion Brithdir: Stanley James, 89, June Hamer, 71, Stanley Bradford, 76, Edith Evans, 85, Evelyn Jones, 87, a William Hickman, 71, fu farw rhwng 2003 a 2005.

Roeddent yn syched difrifol, diffyg maeth, a briwiau pwyso (pressure sores) ar eu cyrff gyda chroen yn pydru a ddisgrifiwyd fel arogl “cath farw”.

Yr wythnos ddiwethaf, clywodd y cwest y byddai’r cartref nyrsio lle bu farw saith o bobol yn sgil gofal gwael rhwng 2003 a 2005 wedi cau pe bai’r achosion hynny wedi digwydd heddiw.

“Preswylwyr yn cael eu cadw mewn ‘warws’”

Dywedodd Mr Williams: “Barn Margaret Moody, yr arbenigwr nyrsio, a’r Athro Malcolm Hodkinson, yr ymgynghorydd geriatregydd, oedd mai agwedd staff Brithdir oedd bod preswylwyr yn cael eu cadw mewn ‘warws’.

“Esboniwyd hyn fel sefyllfa lle’r oedd y preswylwyr yn cael eu cadw a’u bod yn cael eu bwydo ac yn derbyn dŵr gyda’r isafswm lleiaf yn cael ei wneud ac yna roedd staff yn mynd adref.

“Roedd yr arfer hwnnw, yn fy marn i, yn un lle cafodd y preswylwyr eu dad-ddyneiddio ac efallai mai dyma’r pwynt isaf yn stori cartref nyrsio Brithdir.

“Nid wyf yn petruso rhag cadarnhau fel ffaith ddiamwys bod yr holl faterion hyn wedi cyfrannu’n sylweddol at farwolaethau Stanley James, Judith Hamer, William Hickman, Stanley Bradford, Edith Evans ac Evelyn Jones.”

Edrych fel “carcharor rhyfel”

Disgrifiodd merch Stanley Bradford, Gaynor Evans, ei thad fel dyn oedd edrych fel carcharor rhyfel am ei fod ddim ond yn groen ac esgyrn ac roedd yn erfyn arni i beidio â’i ddychwelyd i Frithdir tra yn yr ysbyty.

Bu farw Stanley Bradford, 76, dri mis ar ôl symud i Gartref Brithdir yn 2005.

Roedd preswylwyr yn aml yn fudr, byddai cynlluniau gofal yn cael eu hanwybyddu, roedd dogfennau’n cael eu ffugio, a byddai’r staff yn bychanu preswylwyr.

Dywedodd un cyn-aelod o staff ei bod yn gweld gweithiwr gofal yn rhoi moustache ar wyneb preswylydd benywaidd gyda marciwr parhaol.

“Diffyg gofal dychrynllyd”

Yn ystod y cwest ymddiheurodd sawl aelod o staff Brithdir am y “diffyg gofal dychrynllyd”.

Dywedodd eraill fod “methiant systematig y system” ym Mrithdir gyda lefelau staffio yn “enbyd”, a gofalwyr yn gorfod darparu eu cyfarpar diogelwch personol eu hunain.

Cafodd perthnasau a gododd bryderon am y gofal yr oedd eu hanwyliaid yn ei dderbyn eu gwthio i ffwrdd ar ôl cael “esboniad da”.

Roedd Brithdir yn rhan o grŵp o 24 o gartrefi gofal sy’n eiddo i’r meddyg teulu lleol Dr Prana Das a’i gwmni Gofal Iechyd Puretruce.

Roedd y cwest wedi clywed bod perchennog cartref nyrsio, lle bu farw saith preswylydd ar ôl dioddef gofal gwael, yn “anghwrtais a sarhaus” mewn cyfarfod gydag arolygwyr.

Daeth yr arolygwyr gofal cymdeithasol â’r cyfarfod i ben am ei fod yn dod yn “ddig, afresymol a gwrthdrawiadol”.

Ymchwiliad yr heddlu

Lansiodd yr heddlu ymchwiliad Ymgyrch Jasmine yn 2005 yn dilyn marwolaeth preswylydd oedrannus mewn cartref arall.

Bu bron i ddegawd i’r ymchwiliad a chostiodd dros £11 miliwn gyda ditectifs yn edrych ar 63 o farwolaethau.

Caewyd Brithdir yn 2006, a chafodd ei berchennog, Dr Das, anaf i’r ymennydd yn 2012, a olygai na safodd erioed brawf am fethiannau honedig mewn gofal.

Bu farw ym mis Ionawr y llynedd, yn 73 oed.

Yn 2015 cafodd nifer o staff eu taro o’r gofrestr nyrsio a chafodd eraill waharddiadau.

Bydd gwrandawiad i farwolaeth seithfed preswylydd, Matthew Higgins, 86, yn cael ei glywed ar ôl i’r chwech arall ddod i ben.

Cyn-nyrs wedi cyfaddef dangos “diffyg gofal dychrynllyd” i breswylydd cartref gofal cyn ei farwolaeth

Cwest yn ymchwilio i farwolaethau sawl preswylydd yng Nghartref Gofal Brithdir

Perchennog cartref nyrsio yn “anghwrtais a sarhaus” mewn cyfarfod gydag arolygwyr

Bu farw saith preswylydd yng nghartref nyrsio Brithdir rhwng 2003 a 2005 ar ôl dioddef gofal gwael

Cwest yn clywed bod menyw wedi marw ar ôl datblygu briwiau pwyso yn ei gwely mewn cartref nyrsio

Cafodd menyw â dementia ei hesgeuluso gan staff cartref nyrsio yn y misoedd cyn ei marwolaeth, mae cwest wedi clywed

Preswylwyr cartref nyrsio wedi eu bychanu

Cwest yn clywed am safonau gofal gwael

Cwest yn clywed y byddai cartref nyrsio lle bu farw saith o bobol wedi cael ei gau heddiw

Bu farw’r trigolion mewn cartref gofal yn Nhredegar Newydd rhwng 2003 a 2005