Bydd y rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid-19 wedi cael eu codi yn yr Alban erbyn yr haf, yn ôl Nicola Sturgeon.
Ar Ebrill 2, bydd y rheol “aros adre” yn cael ei chodi, gyda rhyddid i deithio yn cael ei adfer yn llwyr ar Ebrill 26.
Dywedodd y Prif Weinidog y bydd siopau trin gwallt a rhai siopau sy’n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol, megis canolfannau garddio, yn cael agor ar Ebrill 5.
Bydd y rheol “aros yn lleol” mewn grym nes Ebrill 26, ac mae cynlluniau i ganiatáu siwrnai i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig ar yr un dyddiad.
Ar yr un diwrnod, bydd siopau sy’n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau a chanolfannau chwaraeon yn cael agor, a bydd chwe pherson o dri gwahanol aelwyd yn cael cyfarfod tu allan.
Yn ogystal, bydd y sector lletygarwch yn cael agor ar Ebrill 26, a chwsmeriaid yn cael bwyta ac yfed diodydd di-alcohol tu mewn nes 8pm.
Ar Fai 17 y gobaith yw y bydd tafarndai yn cael cynnig gwasanaeth tu mewn, ac ar yn un diwrnod bydd pobol yn cael dechrau cyfarfod o dan do eto.
Ar hyn o bryd, mae’r Alban gyda chyfyngiadau llym lefel 4 mewn grym, a bydd yr holl wlad yn symud i lefel 3 ar Ebrill 26, a bydd “pob ardal lefel 3 – neu bob un sy’n gallu” yn symud i lefel 2 ar Fai 17.
Mae Nicola Sturgeon yn gobeithio y bydd yr holl wlad yn gallu symud i lefel 1 erbyn dechrau Mehefin, a lefel 0 erbyn diwedd Mehefin.
“I fi, byddai gosod dyddiad pendant nawr yn golygu mod i’n dewis dyddiad ar hap – a byddwn i’n gwneud hynny er mwyn gwneud fy mywyd i’n haws, yn hytrach nag eich un chi,” meddai’r Prif Weinidog.
“Dros yr wythnosau nesaf, wrth i fwy o bobol gael eu brechu, credaf y bydd hi’n bosib gosod dyddiad mwy pendant.
“Gobeithiaf mai yn ystod yr haf y bydd y dyddiad hwn.”
Er y gobaith, pwysleisiodd bod rhaid parhau i gadw lefelau achosion Covid-19 mor isel â phosib.