Bu farw Euryn Ogwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf S4C pan gafodd ei sefydlu yn 1982.

Roedd yn 78 oed.

Yn enedigol o Benmachno yn nyffryn Conwy, treuliodd y rhan fwyaf o’i blentyndod yn yr Wyddgrug lle cafodd ei addysg yn Ysgol Alun yn y dref cyn mynd ymlaen i raddio mewn Athroniaeth a Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.

Cychwynnodd ei yrfa ddarlledu fel cyflwynydd ar TWW i ddechrau cyn symud i gwmni Harlech fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd.

Yn Mai 2016 derbyniodd Wobr John Hefin am Gyfraniad Oes i fyd darlledu – gwobr a gafodd ei chyflwyno iddo gan David Meredith yng ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.

“Un o hoelion wyth y diwydiant teledu yng Nghymru”

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:

“Rydyn ni wedi colli un o hoelion wyth y diwydiant teledu yng Nghymru a fu’n allweddol wrth i osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant S4C ym mlynyddoedd cynnar y sianel.

“Yn ddyn o weledigaeth, creadigrwydd a dyfeisgarwch, roedd ei gyfraniad yn aruthrol nid yn unig fel un o gomisiynwyr cyntaf y sianel, ond yn ddiweddarach fel arloeswr gwasanaethau digidol cynnar S4C.

“Mae’r diwydiant cyfryngau yng Nghymru yn dlotach hebddo; fe dorrodd dir newydd gyda’i waith a helpu i ddatblygu Cymru yn wlad a chanddi fri rhyngwladol am ei chynnyrch teledu.”

“Pensaer S4C”

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd S4C: “Euryn oedd pensaer S4C pan sefydlwyd y gwasanaeth yn 1982.

“Ei weledigaeth ef oedd natur y gwasanaeth a grëwyd a phwy oedd yn cynhyrchu’r rhaglenni.

“Roedd llawer wedi meddwl mai’r BBC a HTV yn unig fyddai’n cyflenwi’r rhaglenni, ond roedd gan Euryn syniadau gwahanol ac o ganlyniad i’w egni a’i ddyfeisgarwch, daeth y sector gynhyrchu annibynnol i fod.

“Roedd yn ddatblygiad tyngedfennol yn hanes teledu yng Nghymru ac yn un sy’n parhau hyd at heddiw i sicrhau bod gwreiddiau’r gwasanaeth yn gadarn y tu hwnt i Gaerdydd.

“Doedd Euryn byth yn un i orffwys ar ei rwyfau a phan gychwynnodd y we fyd-eang drawsnewid ein bywydau i gyd, roedd e’ ymhlith y cyntaf i weld y cyfleoedd ac i ddychmygu sut y byddai hyn yn ail-ddiffinio byd y cyfryngau yng Nghymru.

“Roedd yn daer o blaid i S4C barhau i ddatblygu ac i arloesi fel y gwnaeth yn y dyddiau cynnar ac yn hwyr yn ei yrfa cafodd y cyfle i ddiffinio dyfodol S4C fel endid deinamig, digidol.

“Bydd byd y cyfryngau yng Nghymru yn dlotach o lawer heb ei athrylith unigryw.

“Mae ein cydymdeimladau dwysaf gyda Jenny, Rhodri, Sara a’r wyrion.”