Y ffordd orau i gofio’r rhai sydd wedi marw o’r coronafeirws yw trwy “ymdrechu ar y cyd” i gael gwared ar newyn, tlodi, a digartrefedd, yn ôl Adam Price.
Daw ei sylwadau flwyddyn union ers i’r claf cyntaf yng Nghymru farw o’r haint.
Mae Covid-19 wedi amlygu a gwaethygu anghydraddoldeb cymdeithasol ac iechyd, anghydraddoldeb megis “tai gwael, a gwahaniaethau mewn cyfleoedd addysg,” meddai arweinydd Plaid Cymru.
Dylai hyn fod yn drobwynt er mwyn sicrhau na fydd “pethau yn mynd yn ôl i’r ffordd oedden nhw”, meddai yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Mawrth 16).
Yn ystod y sesiwn, siaradodd am ymrwymiad Plaid Cymru i roi cyflog teg i ofalwyr drwy sicrhau eu bod nhw’n derbyn lleiafswm o £10 yr awr.
Fe wnaeth Adam Price annog Mark Drakeford i gefnogi’r polisi, a sicrhau bod pob gofalwr yn cael cyflog byw gwirioneddol.
Ar hyn o bryd, nid yw 56% o ofalwyr yn derbyn cyflog byw gwirioneddol.
“Rydym ni’n croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gofio’r rhai sydd wedi marw drwy blannu coedlannau,” meddai Adam Price.
“Ond, byddai dod ynghyd i roi diwedd ar newyn plant a thlodi, a rhoi diwedd ar ddigartrefedd a thai gwael, yn gofeb well fyth – gan ddechrau gyda gweithwyr allweddol i ddangos nad ydym am i bethau fynd yn ôl fel oedden nhw.”
Galw am ymchwilio i ymateb Llywodraeth Cymru
Yn y cyfamser, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi herio Mark Drakeford i gynnal ymchwiliad i’r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi delio â’r pandemig.
“Ers misoedd, mae’r Prif Weinidog a’r blaid Lafur wedi bod yn erbyn ymateb i’r pandemig ar y cyd â gweddill gwledydd Prydain, gan ddweud y dylai Cymru ddilyn llwybr ei hun,” meddai Andrew RT Davies.
“Heddiw, fodd bynnag, mae’r Blaid Lafur yn dweud y dylai’r ymchwiliad fod yn un sy’n ystyried y pedair cenedl ar y cyd.
“Rwyf yn sicr y dylid cynnal ymchwiliad sy’n ystyried holl wledydd y Deyrnas Unedig, ynghyd ag ymchwiliad sy’n edrych yn benodol ar Gymru.
“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal un ar ôl etholiadau mis Mai fel bod posib dysgu gwersi wrth symud ymlaen, helpu i achub bywydau, ac arbed bywoliaethau,” ychwanegodd.