Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno Deddf Natur “arloesol” i fynd i’r afael â’r “argyfwng bioamrywiaeth” petai’r blaid yn ennill etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.
Dywedodd Llyr Gruffydd, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, fod yr argyfwng cynyddol yn tanseilio’r gwasanaethau hanfodol sy’n cael eu darparu i gymdeithas gan fyd natur, megis bwyd, aer a dŵr glân, deunyddiau, a meddygaeth.
Beirniadodd Llywodraeth Lafur Cymru am beidio â gwneud eu Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn un statudol, gan ychwanegu y byddai Plaid Cymru yn cyflwyno targedau cyfreithiol i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050.
“Mae dwy flynedd ers i’r Senedd gefnogi cynnig Plaid Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru,” meddai Llyr Gruffydd.
“Mae’r argyfwng hwnnw bellach yn rhan sefydledig o ymwybyddiaeth y cyhoedd, ond nid yw’r argyfwng cyfochrog sy’n wynebu natur a bioamrywiaeth yn cael y sylw mae’n haeddu.
“Un o bob chwe rhywogaeth dan fygythiad”
“Nid yw dull presennol Llywodraeth Lafur Cymru o adfer natur yn ddigon. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru bellach dan fygythiad o ddiflannu,” pwysleisiodd.
“Er bod Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru y llywodraeth yn cydnabod yr angen i wella tystiolaeth, dealltwriaeth a gweithgarwch monitro, nid yw hyn ar sail statudol fel y dylai fod.
“Gyda natur bellach ar erchwyn y dibyn, byddai llywodraeth Plaid Cymru ar ôl etholiad mis Mai yn ymrwymo i gyflwyno Deddf Natur, gan ddatgan Argyfwng Natur yn ffurfiol a gosod targedau cyfreithiol rhwymol i adfer bioamrywiaeth ar dir a môr erbyn 2050.
Yn ôl Llyr Gruffydd, byddai Plaid Cymru yn ymrwymo i adael yr amgylchedd naturiol mewn cyflwr gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn gweithio tuag at adfer “pob cynefin posib”.
“Ni fyddai hyn yn disodli camau gweithredu mewn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd ond yn hytrach yn ei ategu. Mae’r ddau yn fygythiadau uniongyrchol sy’n haeddu polisïau radical i fynd i’r afael â’r heriau hyn sydd wedi’u cydblethu,” esboniodd.
“Mae Plaid Cymru yn benderfynol ac wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy – i fyd natur, i Gymru, a’r byd.”