Fel rhan o’u hymgyrch etholiadol mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn addo adeiladu ffordd liniaru’r M4, rhewi treth y cyngor, a recriwtio 3,000 o nyrsys.

Daw eu haddewidion cyn etholiadau Senedd Cymru, fydd yn digwydd ar Fai 6.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r addewidion yn rhan o becyn i helpu teuluoedd, gweithwyr, ac adfer busnesau ar ôl y pandemig.

Mae’r pecyn yn cynnwys creu 65,000 o swyddi, rhewi treth y cyngor am o leiaf dwy flynedd, a gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wario £2biliwn yng Nghymru.

Petai’r blaid yn dod i rym yng Nghymru, mi fyddent yn addo adeiladu ysbytai newydd a rhoi rhagor o arian i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) bob blwyddyn, recriwtio 3,000 nyrs, 1,200 meddyg, a 5,000 o athrawon.

Bydden nhw, hefyd, yn gweithio gyda chomisiynwyr heddlu Ceidwadol er mwyn buddsoddi arian yn yr heddlu, a chwtogi troseddau.

Wythnos ddiwethaf, lansiodd y Blaid Lafur eu hymgyrch etholiadol drwy addo y bydd pob person ifanc dan 25 oed yn cael swydd, lle mewn coleg neu brifysgol, hyfforddiant, neu waith hunangyflogedig.

Etholiad “pwysicaf mewn cenhedlaeth”

“Etholiad y Senedd ar Fai 6 yw’r etholiad pwysicaf mewn cenhedlaeth,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydym ni ar groesffordd, a bydd yr etholiad yn penderfynu pa ffordd y byddwn ni’n ei chymryd.

“Mae’r economi yn crebachu ar y raddfa waethaf ers i gofnodion ddechrau, ac mae tystiolaeth yn dangos bod cymunedau Cymreig ymhlith y rhai i gael eu taro waethaf yn y Deyrnas Unedig.

“Rydym ni angen cynllun ar gyfer adfer, a chreu swyddi,” pwysleisia.

“Ni all pobol Cymru fforddio pum mlynedd arall gyda’r Blaid Lafur mewn grym, yn cael ei chefnogi gan y cenedlaetholwyr. Mae’r Blaid Lafur wedi caniatáu i broblemau bentyrru dros ddau ddegawd, ac nid oes cynllun i wella hyn.

“Byddwn ni’n sicrhau bod teuluoedd, gweithwyr a busnesau Cymru yn gallu adfer wedi’r pandemig, gan greu cyfleoedd a buddsoddi yn ein seilwaith ac ein gwasanaethau cyhoeddus. Dyma neges gadarnhaol a gobeithiol.”

“Ni fu amser pwysicach i ddwy lywodraeth gydweithio yng Nghymru er mwyn ailadeiladu’r economi,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Heb economi gref, ni allwn gael systemau iechyd nag addysg cryfion. Heb economi gref, ni allwn ni ariannu gwasanaethau cyhoeddus pwysig megis yr heddlu a gwasanaethau amddiffyn i gadw ein strydoedd yn sâff.”