Byddai buddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi bod yn sylweddol uwch pe bai wedi’i ddatganoli, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y bydd methu â datganoli’r pwerau hyn yn golygu colledion pellach yng nghyllideb Cymru.
Canfyddiad yr adroddiad yw y gallai Cymru, o dan system wedi’i datganoli’n llawn, fod wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol o £514 miliwn yn ei seilwaith rheilffyrdd rhwng 2011-12 a 2019-20.
Yn ogystal â pharhau i danfuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, mae’r ymchwilwyr yn rhybuddio y bydd system heb ei datganoli yn arwain at wasgu cyllideb Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Canfyddiadau’r adroddiad
Eisoes, mae dynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr yn eithrio Cymru rhag derbyn yr arian ychwanegol fydd yn mynd i’r Alban a Gogledd Iwerddon dros oes y prosiect.
Mae’r Fformiwla Barnett yn penderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, ac mae gwariant ar brosiectau sy’n ymwneud â Lloegr yn unig yn golygu bod arian ychwanegol yn cael ei roi i’r tair gwlad arall.
Gan nad yw Cymru’n cael ei thrin yr un fath â’r Alban yn y cyfrifiadau hyn, mae’r adroddiad yn amcangyfrif y bydd Llywodraeth Cymru yn colli dros £505 miliwn arall dros y pum mlynedd nesaf.
Dros weddill oes prosiect HS2, sy’n debygol o fod dros sawl degawd, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfran is o lawer o unrhyw gynnydd yng nghyllideb yr Adran Drafnidiaeth.
Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gweithrediadau’r rheilffyrdd yng Nghymru, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd.
Yn ogystal, mae diwedd ar ariannu gan Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod llai o arian ar gael i Lywodraeth Cymru wario ar seilwaith rheilffyrdd.
Mae’r adroddiad gan Ganolfan Lywodraethiant Llywodraeth Cymru Prifysgol Caerdydd wedi’i gyflwyno fel tystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymru i seilwaith rheilffordd yng Nghymru.
“Ergyd ddwbl”
“O ran rheilffyrdd Cymru, mae’r dystiolaeth yn glir y byddai’r cyllid wedi bod yn sylweddol uwch o dan system wedi’i datganoli’n llawn – hyd at £500m er 2011, pan oedd data gwariant ar gyfer Cymru ar gael am y tro cyntaf,” meddai Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil Dadansoddi Cyllid Cymru.
“Byddai’r cyllid hwnnw dros 8 mlynedd wedi galluogi prosiectau gwella sylweddol i ddigwydd.
“Bydd Cymru hefyd yn colli cyllid trafnidiaeth pan fydd y Trysorlys yn gosod y cyllidebau aml-flwyddyn nesaf, yn sgil newidiadau technegol yng nghyfrifiadau fformiwla Barnett. Mae hon yn ergyd ddwbl i Gymru, gyda’r tanariannu hanesyddol yn cael ei wreiddio yn y system.
“Mae’n amlwg bellach mai dim ond drwy ddatganoli’r seilwaith rheilffyrdd yn llawn – fel yn yr Alban – y bydd modd mynd i’r afael â thanariannu rheilffyrdd Cymru.”