Mae cwmni o Gwmbrân wedi derbyn arian ar gyfer prosiect gwerth £31.9 miliwn i ddatblygu trenau pŵer electroneg ysgafn i’w defnyddio mewn cerbydau nwyddau trwm.

Fel rhan o brosiect EPIC (Electric Powertrain Integration for Heavy Commecial Vehicles), bydd cwmni Meritor yng Nghwmbrân yn datblygu trenau pŵer, sydd ddim yn creu allyriadau, i’w defnyddio mewn cerbydau nwyddau trwm.

Bydd y dechnoleg yn creu un system ysgafn, a fydd yn gallu cael ei defnyddio i bweru cerbydau sy’n pwyso hyd at 44 tunnell. Bydd hyn yn cynnwys bysus, a cherbydau adeiladu.

Mae’r arian yn rhan o ymrwymiad gwerth £54 miliwn gan yr Advanced Propulsion Centre i ddatblygu tri phrosiect modurol arloesol.

“Mwy effeithlon a hyblyg” na systemau sy’n bodoli’n barod

“Gyda’r arian yma, byddwn yn datblygu trenau pŵer electroneg ar gyfer cerbydau 4×2 a 6×2 sy’n pwyso hyd at 44 tunnell,” esbonia John Bennett, Dirprwy Lywydd a Phrif Swyddog Technoleg cwmni Meritor.

“Bydd y dechnoleg yn darparu ateb i Weithgynhyrchwyr Cyfarpar Gwreiddiol allu creu cerbydau masnachol sy’n cyfarfod targedau’r Undeb Ewropeaidd i leihau allyriadau CO2 erbyn 2025. Yn ogystal, bydden nhw’n fwy effeithlon, yn pwyso llai, ac yn fwy hyblyg na systemau sy’n bodoli’n barod.”

De Cymru yn “ganolbwynt arloesedd a thechnoleg werdd”

“Wrth i ni weithio tuag at ddyfodol sero-net erbyn 2050, bydd de Cymru yn ganolbwynt arloesedd a thechnoleg werdd,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Bydd y buddsoddiad mewn systemau electroneg yng Nghwmbrân yn creu mwy na 1,000 o swyddi.

“Daw hyn wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, a datblygu parth sero-net diwydiannol ar draws de Cymru fydd yn sicrhau bod treftadaeth falch yr ardal yn parhau drwy ddiwydiannau’r dyfodol.”

Prosiectau eraill sydd wedi derbyn arian gan yr Advanced Propulsion Centre yw e-MOTIF fydd yn datblygu technolegau i leihau allyriadau CO2 mewn ceir rasio, a Next Gen FCEV sy’n datblygu technoleg i bweru bysus gyda hydrogen.