Mae disgwyl i Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ofyn i arweinwyr Ewropeaidd i ddiystyru unrhyw gynigion i rwystro allforion brechlyn coronafeirws i’r Deyrnas Unedig.
Mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen wedi dweud fod gan yr Undeb Ewropeaidd y pŵer i “wahardd” allforion, gan ychwanegu: “Dyna’r neges i AstraZeneca.”
Daw hyn yn sgil rhwystredigaeth ar y cyfandir nad yw’r Undeb Ewropeaidd yn cael y cyflenwadau y maen nhw’n eu disgwyl gan AstraZeneca.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gysylltu ag arweinwyr yn yr Undeb Ewropeaidd cyn uwchgynhadledd rithiol ddydd Iau (Mawrth 25) lle bydd arweinwyr Ewropeaidd yn ystyried y mater, yn ôl The Financial Times.
Dywedodd ffynonellau yn y Llywodraeth fod Boris Johnson wedi siarad â Ursula von der Leyen, ynghyd â phrif weinidogion yr Iseldiroedd a Gwlad Belg Mark Rutte ac Alexander De Croo yr wythnos diwethaf.
Yn y cyfamser, dywedodd comisiynydd Iwerddon Mairead McGuinness nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch unrhyw gynlluniau i rwystro allforio brechlynnau.
Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn “flin ac anhapus”
Dywedodd Mairead McGuinness wrth ‘The Andrew Marr Show’ ar BBC 1 fod dinasyddion Ewrop yn “flin ac yn anhapus” nad oedd cyflwyno’r brechlyn wedi digwydd mor gyflym ag yr oedden nhw wedi’i ragweld.
Dywedodd: “Mae gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig gytundebau gydag AstraZeneca a’m dealltwriaeth i yw bod y cwmni’n cyflenwi’r Deyrnas Unedig ond nid yr Undeb Ewropeaidd.
“Rydym yn darparu brechlynnau eraill i’r Deyrnas Unedig, felly rwy’n credu bod hyn yn ymwneud â bod yn agored ac yn dryloyw.”
“Byddwn i gyd yn dal i gadw at ein cytundebau.”
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace wedi taro’n ôl drwy rybuddio bod gweithgynhyrchu’r brechlyn Pfizer yn dibynnu ar gyflenwadau o’r Deyrnas Unedig.
“Y peth aeddfed fyddai i’r Comisiwn Ewropeaidd a rhai o’r arweinwyr Ewropeaidd beidio ag ymroi i rethreg ond cydnabod y rhwymedigaethau sydd gennym i gyd,” meddai wrth ‘The Andrew Marr Show’.
“Byddwn i gyd yn dal i gadw at ein cytundebau.
“Mae gwneud brechlyn fel pobi cacen.
“Mae gan bob un ohonom gynhwysion gwahanol a bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn gwybod hynny.”