Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi cyfarfod â’r rheoleiddwr Ofcom, i bwyso am yr angen am well cysylltiad band eang yn ei hetholaeth.
Yn ôl adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Ofcom, mae dros 18% o aelwydydd Dwyfor Meirionnydd yn derbyn cyflymderau band eang o lai na 10Mb/s – sef y trothwy cymhwysedd a osodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer uwchraddio rhwydwaith.
Mae ffigurau hefyd yn dangos bod cyflymderau lawrlwytho ar gyfartaledd yn yr etholaeth (41.2%), sy’n is na chyfartaledd Cymru (58.3%) a’r Deyrnas Unedig (72.9%).
Bydd Liz Saville Roberts yn cyfarfod â BT ac Openreach yr wythnos hon er mwyn trafod trafferthion ei hetholwyr.
“Anghenion cymunedau gwledig yn parhau i gael eu hesgeuluso”
Wrth drafod y mater, dywedodd Liz Saville Roberts fod “anghenion cymunedau gwledig yn parhau i gael eu hesgeuluso”.
“Rwy’n croesawu’r cyfle i drafod y pryderon sydd gennyf ynglŷn â pha mor gyflym y mae band eang cyflym yn cael ei gyflwyno yn fy etholaeth wledig, a’r angen i wella cysylltedd yn gyffredinol ar draws cymunedau gwledig,” meddai.
“Mae Dwyfor Meirionnydd yn gyson ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig o ran mynediad at fand eang dibynadwy.
“Mae hyn yn cael ei gymhlethu gan gysylltedd gwael cyffredinol; rhwystr sylweddol i fusnesau a phreswylwyr.
“Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw cydraddoldeb mynediad i seilwaith cyfathrebu’r wlad.
“Roeddwn wedi gobeithio y byddai gwahanu BT oddi wrth Openreach yn rhoi diwedd i’r monopoli yn y ddarpariaeth band eang, ond mae anghenion cymunedau gwledig yn parhau i gael eu hesgeuluso.”
“Anfantais”
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd yn etholiadau Senedd Cymru: “Mae uwchraddio seilwaith digidol mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol i sicrhau nad yw’r economi wledig dan anfantais bellach.
“Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i hysbysu Ofcom fel y rheolydd band eang, o’r materion sy’n wynebu cymunedau gwledig o ran darparu band eang.
“Mae’n amlwg bod y sefyllfa bresennol yn rhoi busnesau ac aelwydydd lleol dan anfantais a gallai beri i ddarpar gyflogwyr feddwl ddwywaith am fuddsoddi mewn ardaloedd o’r fath.”