Mae Vaughan Gething wedi dweud nad yw’n disgwyl “mynd ar wyliau dramor” yn ystod yr haf eleni, gan ddweud ei bod yn bwysig bod yn onest gyda’r cyhoedd ynghylch dychwelyd at ‘normalrwydd’.

Daw hyn wrth iddo gyhoeddi bod dros 50% o oedolion Cymru wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn, a bod bron i 350,000 wedi derbyn y ddau ddos.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru ei bod hi’n “anodd rhagweld” pryd fydd pethau’n dychwelyd i ‘normal’ yng Nghymru, gan fod “rhaid gofyn beth yw normal?”

“Ni fydd y normal newydd yr un fath â deunaw mis yn ôl o ran disgwyliadau pobol, a sut maen nhw’n ymddwyn,” meddai Vaughan Gething.

“Bydd nifer o bethau yn wahanol”

Aeth yn ei flaen i ddweud y “gall rhai newidiadau fod yn bositif i ni”, megis mwy o bobol yn dechrau gwisgo masgiau er mwyn cadw at hylendid resbiradol, a rhagor o bobol yn derbyn brechiad ffliw bob blwyddyn.

“Bydd nifer o bethau yn wahanol. Rydym ni’n trio bod yn onest gan ddweud nad ydym yn debygol o weld yr holl gyfyngiadau yn cael eu llacio, na phobol yn dychwelyd at gael gwneud beth bynnag maen nhw eisiau, o fewn y misoedd nesaf.

“Nid safbwynt Llywodraeth Cymru yn unig mo hyn, ond dyma farn yr holl gynghorwyr ac arbenigwyr gwyddonol ar draws y Deyrnas Unedig.

“Nid oes neb yn dweud ei bod yn bosib cael dim cyfyngiadau a dim achosion Covid eleni,” pwysleisiodd.

“Nid ydw i’n disgwyl cael mynd ar wyliau na theithio dramor yn fuan, a byddwn yn synnu petawn yn mynd ar wyliau dramor yn ystod yr haf, oherwydd mae’n rhaid i ni feddwl am yr hyn sy’n digwydd yma, ac mewn rhannau eraill o’r byd.”

Parhau â dull “gofalus” er mwyn llacio cyfyngiadau

Bydd Cymru’n parhau â dull “gofalus” er mwyn llacio cyfyngiadau coronafeirws, ac ni fydd y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi amserlen sy’n ymestyn at yr haf.

Dywedodd Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gweithredu fel petai’r rheolau am gael eu “diddymu yn hudolus ar bwynt penodol mewn amser”, ac y gallai symud yn rhy gyflym arwain at don newydd o achosion a marwolaethau.

Daeth ei sylwadau wedi i Mark Drakeford ddisgrifio amserlen Boris Johnson ar gyfer llacio cyfyngiadau yn Lloegr fel un “optimistaidd”.

Dywedodd Vaughan Gething fod y cyhoedd yng Nghymru yn “croesawu, ac eisiau i ni barhau i fabwysiadu, agwedd ofalus sy’n cael ei harwain gan dystiolaeth”.

Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd Mark Drakeford ei fod am fod yn “onest a realistig gyda phobl yng Nghymru, yn hytrach na cheisio peintio’r darlun mwyaf optimistaidd posib”.

Dywedodd wrth BBC Cymru: “Rwy’n credu bod rhai o’r awgrymiadau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu gwneud i’w gweld yn optimistaidd, ac nid yn llawn ystyried y cyngor rydym yn ei dderbyn ynghylch y risgiau fydd gyda ni am weddill y flwyddyn.”

Ond dywedodd Mr Drakeford ei fod yn gobeithio y bydd bywyd yn ystod misoedd yr haf “yn llawer nes at normal nag y bu dros y gaeaf”.

Cynllun i adfer y gwasanaeth iechyd

Yn ystod y gynhadledd i’r wasg, bu Vaughan Gething yn trafod cynllun Llywodraeth Cymru i adfer y gwasanaeth iechyd a gofal ar ôl y pandemig.

Mae’r Gweinidog Iechyd eisoes wedi dweud y bydd hi’n daith hir tuag at adferiad, ac ymhelaethodd ar hyn drwy ddweud y bydd hi’n cymryd tymor seneddol cyfan i adfer y gwasanaeth iechyd.

Bydd y cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – Covid:19 – Edrych Tua’r Dyfodol yn edrych ar agweddau megis lleihau anghydraddoldebau iechyd i greu Cymru decach, a datblygu gofal sylfaenol a chymunedol mwy ymatebol.

Yn ogystal, bydd yn canolbwyntio ar greu gwasanaeth iechyd meddwl cefnogol, gwasanaethau ysbyty mwy effeithiol ac effeithlon, a gwella’r cydweithio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r cynllun hefyd yn edrych ar gefnogi a chreu gweithlu gwydn, a darparu cymorth digidol hygyrch.

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun i adfer y gwasanaeth iechyd a gofal ar ôl y pandemig

Cyfle i “drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol”

Cynadleddau i’r wasg rheolaidd yn dod i ben

Trwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal cynadleddau cyson i’r wasg, ond mae y rhain yn dod i ben nawr.

Bydd un cael ei chynnal ar Ebrill 1, ac un arall ar Ebrill 23, ddiwrnod ar ôl i’r rheolau gael eu hadolygu.

Daw hyn gan fod rheolau mewn lle i sicrhau bod pob plaid wleidyddol yn cael yr un cyfleoedd cyn etholiad Senedd Cymru ar Fai 6.

Yr unig eithriad fyddai pe bai yna “newid sylweddol” i reoliadau, neu “gyhoeddiad fyddai’n golygu oblygiadau mawr i iechyd y cyhoedd”.