Mae cyfyngiadau ar archfarchnadoedd Cymru yn cael eu llacio heddiw (Mawrth 22), ac mae ganddyn nhw’r hawl i werthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol.
Bu’n rhaid i siopau nad oedd yn gwerthu nwyddau hanfodol gau cyn y Nadolig, ond roedd siopau hanfodol yn cael aros ar agor.
Hyd at heddiw, nid oedd gan archfarchnadoedd yr hawl i werthu nwyddau nad oedd yn hanfodol megis llyfrau, DVDs, a theganau.
Fe fydd canolfannau garddio yn cael agor heddiw hefyd am y tro cyntaf eleni.
Daw’r newidiadau fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i godi’r cyfyngiadau’n araf yn sgil amrywiolyn Caint, sy’n trosglwyddo’n haws o un person i’r llall.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai’r llacio gael ei arafu, ei ohirio, neu ei wrthwneud os bydd arwyddion cryf yn dangos bod achosion Covid-19 yn cynyddu eto.
Ar Fawrth 27, bydd cyfyngiadau “aros yn lleol” yn codi, a bydd Cymru yn symud o lefel rhybudd 4 i 3.
Bydd llety gwyliau hunangynhaliol yn cael agor, llyfrgelloedd yn ailagor, a gweithgareddau tu allan i blant yn cael ailddechrau ar Fawrth 27.
Wedi’r Pasg, bydd holl blant ysgol Cymru yn dychwelyd i’r ysgol ar Ebrill 12, a bydd myfyrwyr yn dychwelyd i golegau a phrifysgolion.
Ar yr un diwrnod bydd pob siop yn cael ailagor.
Os bydd nifer yr achosion yn aros yn gyson neu’n disgyn erbyn Ebrill 22, bydd gweinidogion yn penderfynu dechrau agor canolfannau chwaraeon, atyniadau awyr agored, a lletygarwch tu allan, a chaniatáu priodasau a gweithgareddau tu mewn a thu allan.
Cyfnod “hollbwysig”
“Rydym ni’n dechrau ar gyfnod hollbwysig,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.
“Rydym yn gallu gweld y goleuni ar ddiwedd y twnnel ar ôl ail don hir ac anodd, diolch i ymdrechion arbennig gwyddonwyr ac ymchwilwyr yn datblygu brechlynnau.
“Mae ein rhaglen frechu arbennig wedi cynnig brechlynnau i’r bobol sydd mewn perygl mwyaf ar gyflymder anhygoel.”
Bydd y cynlluniau i lacio cyfyngiadau yn cael eu hailystyried ar ôl i bob oedolyn cymwys gael cynnig brechlyn. Mae disgwyl i bob oedolyn cymwys gael cynnig y brechlyn erbyn diwedd Gorffennaf.