Mae protest ym Mryste, lle cafodd plismyn eu hanafu yn dilyn ymosodiad ar orsaf yr heddlu, wedi cael ei beirniadu’n hallt.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel bod y golygfeydd treisgar yn “annerbyniol” ac na fyddai “ymosodiadau ac anhrefn” o’r fath yn cael eu goddef.

Mae’n dilyn gwrthwynebiad i’r Mesur Heddlu a Throsedd newydd a fydd yn rhoi pwerau newydd i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr i osod amodau ar brotestiadau di-drais, gan gynnwys rhai sy’n cael eu hystyried yn rhy swnllyd neu’n achosi niwsans.

Roedd Maer Bryste, Marvin Rees, wedi dweud bod ganddo “bryderon difrifol” ei hun am fesur newydd y Llywodraeth gan ddweud y gallai darfu ar hawl pobl i fynegi eu hunain a’r hawl i gynnal protest heddychlon. Ond mae wedi condemnio’r ymosodiadau ac yn dweud y bydd yr anhrefn yn cyfiawnhau’r ddeddfwriaeth.

“Fe fydd difrodi adeiladau yng nghanol y ddinas, fandaleiddio cerbydau, ac ymosod ar ein plismyn ddim yn lleihau’r tebygolrwydd o’r mesur yn cael ei gymeradwyo.

“I’r gwrthwyneb, fe fydd y tor-cyfraith yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth i hybu’r angen am y mesur.

“Mae hi wedi bod yn ddiwrnod cywilyddus yn ystod blwyddyn anhygoel i Fryste.”

“Annerbyniol”

Mae cyfarfodydd torfol wedi’u gwahardd ar hyn o bryd fel rhan o’r cyfyngiadau coronafeirws ac fe allai unrhyw un sy’n torri’r rheolau gael dirwy.

Fe ddechreuodd y brotest ddi-drais yn ddigon tawel bnawn dydd Sul (Mawrth 21) ond fe drodd yn dreisgar ar ôl i gannoedd o brotestwyr gyrraedd gorsaf yr heddlu yn New Bridewell.

Cafodd dau blismon eu hanafu a’u cludo i’r ysbyty. Bu protestwyr wedyn yn ceisio torri ffenestri’r orsaf a cheisio cynnau tân yn un o gerbydau’r heddlu tu allan i’r orsaf. Cafodd y tân ei ddiffodd gan swyddogion terfysg.

Cafodd nifer o gerbydau eraill yr heddlu hefyd eu difrodi yn ystod y digwyddiad, yn ogystal â cherbydau mewn maes parcio aml-lawr gerllaw.

Yn ôl Heddlu Avon a Gwlad yr Haf cafodd tân gwyllt eu taflu at eu swyddogion. Maen nhw’n dweud bod saith person wedi cael eu harestio – chwech am anhrefn dreisgar ac un am fod ag arf yn ei feddiant.

Mae’r trais wedi cael ei gondemnio gan yr Ysgrifennydd Cartref, cynrychiolwyr ffederasiwn yr heddlu ac arweinwyr lleol.

Wrth drydar ei hymateb dywedodd Priti Patel: “Golygfeydd annerbyniol ym Mryste heno. Ni fydd ymosodiadau ac anhrefn gan leiafrif yn cael ei oddef,” gan ychwanegu bod ei meddyliau gyda’r plismyn gafodd eu hanafu.