Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun, gyda chyllid o £100 miliwn yn y lle cyntaf, i adfer y gwasanaeth iechyd a gofal wedi’r pandemig.
Bydd y cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – Covid:19 – Edrych Tua’r Dyfodol yn edrych ar agweddau megis lleihau anghydraddoldebau iechyd i greu Cymru decach, a datblygu gofal sylfaenol a chymunedol mwy ymatebol.
Yn ogystal, bydd yn canolbwyntio ar greu gwasanaeth iechyd meddwl cefnogol, gwasanaethau ysbyty mwy effeithiol ac effeithlon, a gwella’r cydweithio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae’r cynllun hefyd yn edrych ar gefnogi a chreu gweithlu gwydn, a darparu cymorth digidol hygyrch.
“Taith hir” tuag at adferiad
“Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ein cleifion a’n staff. Wrth inni fynd heibio i gyfnod mwyaf difrifol y pandemig, rydym yn awr mewn sefyllfa i amlinellu sut y gallwn ddechrau adfer,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru.
“Mae’r cynllun hwn yn amlinellu egwyddorion cyffredinol ein hadferiad a bydd camau gweithredu manylach i ddilyn. Rwy’n rhyddhau £100m yn awr i gefnogi’r camau cyntaf tuag at adferiad, ond mae’n amlwg y bydd angen mwy o adnoddau i adfer yn llawn.
“Bydd y daith yn un hir, ond mae’n gyfle hefyd inni drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn ein cymdeithas sydd wedi dod yn fwy amlwg yn sgil y pandemig.
“Dyna pam yr wyf yn falch o gyhoeddi ein Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, ochr yn ochr â’n cynllun adfer, sy’n amlinellu sut yr ydym yn rhagweld y bydd gwasanaethau clinigol y GIG yn datblygu dros y degawd nesaf.”
Mae’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol yn ymrwymiad a wnaed yn y cynllun Cymru Iachach, ac mae’n disgrifio sut y gall datblygu gwasanaethau clinigol yn strategol sicrhau bod y GIG yn addas ar gyfer heriau’r ganrif hon.
“Mae’r dogfennau hyn, a ddatblygwyd gyda chlinigwyr, yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth o gael gwasanaeth iechyd modern a fydd yn gallu diwallu ein gofynion yn y dyfodol, fel y nodwyd yn ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach,” ychwanegodd Vaughan Gething.
Datblygu technolegau
Cafodd llawer o dechnolegau newydd eu datblygu yn ystod y pandemig, a bydd y rhain yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, meddao.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi £1.2 miliwn i sefydlu canolfan i hybu’r defnydd o dechnolegau newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i Technology Enabled Care Cymru hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau newydd, megis ymgynghoriadau rhithwir a monitro cleifion o bell o’u cartrefi.
Dywedodd Prif Weithredwr y GIG, Andrew Goodall fod y system iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymrwymo i ddysgu o’r pandemig a datblygu arloesi technolegol.
“Cyn hyn, dim ond 8% o ymgynghoriadau cleifion allanol oedd yn cael eu cynnal yn rhithwir, ond mae hyn wedi cynyddu i fwy na 43% ers dechrau’r pandemig,” meddai Andrew Goodall.
“I lawer o gleifion, mae hyn yn welliant sylweddol o ran sut y maent yn cael mynediad at wasanaethau ac mae angen inni adeiladu ar hynny, gan sicrhau bod y capasiti ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb yn canolbwyntio ar bobl sydd angen cael eu gweld wyneb yn wyneb.”
Yn ogystal, mae crynodeb o astudiaeth newydd ar arloesi technolegol yn ystod y panemig wedi’i gyhoeddi heddiw (Mawrth 22), er mwyn nodi’r ddysg a fydd yn galluogi, datblygu a chynnal ffyrdd arloesol o weithio ar draws y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Angen “trawsnewid” y gwasanaeth
Yn ôl Plaid Cymru, mae’n rhaid i’r cynllun ganolbwyntio ar gefnogi gweithlu’r GIG.
Eisoes, mae Plaid Cymru wedi addo recriwtio 1,000 o ddoctoriaid newydd, a 5,000 o nyrsys a gweithwyr iechyd eraill, ac maen nhw wedi adnewyddu’u haddewid yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru.
Maen nhw hefyd yn galw am drawsnewid gwasanaethau, gan sicrhau eu bod nhw’n gynaliadwy, a ddim yn ymateb er mwyn ymdopi ag ôl-groniad Covid-19 yn unig.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, mae unrhyw gynlluniau sy’n canolbwyntio ar “wella ar ôl y pandemig” yn unig yn anwybyddu dau ddegawd o “ddirywiad” yn y maes.
“Roedd ôl-groniad mewn pobol yn disgwyl llawdriniaethau a diagnosis, gweithlu blinedig, a thargedau’n cael eu methu yn ganlyniad i 20 mlynedd o gael Gweinidogion Iechyd Llafur mewn grym, cyn y pandemig,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Bydd hyn yn cael ei ailadrodd, oni bai fod y system iechyd a gofal yn cael ei thrawsnewid yn llwyr.”