Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn ymhelaethu ar ei gynlluniau ar gyfer llacio’r cyfyngiadau covid ymhellach yng Nghymru, mewn cynhadledd i’r Wasg heddiw.
Ddydd Llun (Mawrth 22) bydd siopau manwerthu nad yw’n hanfodol yn dechrau ailagor.
Yn gyntaf bydd y Llywodraeth yn rhoi caniatâd i siopau hanfodol werthu eitemau nad oedd hawl ganddynt i’w gwerthu o dan y cyfyngiadau blaenorol.
Bydd canolfannau garddio hefyd yn gallu agor eto, tra bod cynlluniau i ailagor safleoedd a gerddi hanesyddol hefyd yn cael eu hadolygu, gyda phenderfyniad terfynol ar hynny i ddod yr wythnos nesaf.
A dywedodd Mark Drakeford fod cynlluniau ar waith i godi cyfyngiadau lleol o Fawrth 27 ar yr amod bod achosion coronafeirws yn parhau i ostwng.
”Os fydd yr amodau’n parhau’n gadarnhaol, ar Fawrth 27 byddwn yn codi’r rheol ‘aros yn lleol’ ac yn dechrau’r broses o ailagor ein sector twristiaeth, gan ddechrau gyda llety hunangynhwysol a gweithgareddau plant awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer gwyliau’r Pasg.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi diweddaru ei Gynllun Rheoli Coronafeirws, sy’n nodi sut y bydd Cymru’n symud rhwng lefelau rhybudd.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gynllun i’n “helpu i godi cyfyngiadau ymhellach, ar yr amod bod y feirws yn parhau i fod dan reolaeth.”
Y Llywodraeth “yn cadw llygad barcud” ar y sefyllfa Covid-19 ym Môn a Merthyr
Dywedodd y Prif Weinidog fod sefyllfa gyffredinol iechyd y cyhoedd yn parhau’n “sefydlog” gyda thua 44 o achosion fesul 100,000 o bobl a chyfradd bositif o 3.9%.
Ond mae’r Llywodraeth yn “cadw llygad barcud ar Ynys Môn a Merthyr Tudful lle mae clystyrau o achosion, sy’n gysylltiedig â chymysgu cartrefi a chymdeithasol, wedi codi’r cyfraddau”.
“Rydym yn pryderu’n benodol am amharodrwydd mewn rhai mannau, i ymgysylltu â thimau olrhain,” meddai Mark Drakeford.
“Mae’r cyswllt hwnnw’n hanfodol. Mae’n golygu y gallwn nodi ffynhonnell yr haint a pha mor bell y mae wedi lledaenu.
“Mae’r gwaith hwn yn dod yn bwysicach fyth wrth i ni ddechrau llacio’r cyfyngiadau.
“Mae angen i ni weithredu’n gyflym gan mai amrywiolyn Caint yw ffurf amlycaf y feirws erbyn hyn ac mae’n lledaenu’n gyflym.”
318,000 o Gymry bellach wedi cael eu brechu’n llawn
Mae 318,000 o’r Cymry bellach wedi cael eu brechu’n llawn, tra bod dros 1% o’r boblogaeth wedi bod yn cael eu brechu yn ddyddiol dros y diwrnodau diwethaf, yn ôl Mark Drakeford.
“Mae dros 1.2 miliwn o bobol eisoes wedi cytuno i dderbyn y feirws, ac rydym yn gwneud cynnydd cyflym iawn wrth frechu pobol yng ngrwpiau blaenoriaeth pump i naw,” meddai.
Ychwanegodd fod dros 40% o’r rhai yn eu 50au wedi’u brechu a 62% o’r rhai yng ngrŵp blaenoriaeth chwech wedi derbyn y dos cyntaf o’r brechlyn.
Aeth ymlaen i ddweud bod gan Gymru’r “gyfradd ‘ail ddos’ uchaf yn y Deyrnas Unedig”.
Disgwyl cael 250,000 yn llai o ddosau o frechlyn AstraZeneca yn yr wythnosau nesaf
Rhybuddiodd Mark Drakeford y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth “addasu yn ystod yr wythnosau nesaf” gan fod Cymru yn disgwyl cael 250,000 yn llai o ddosau o frechlyn Oxford-AstraZeneca.
Mae hyn wedi cael ei achosi gan oedi mewn cyflenwadau, yn ôl y Prif Weinidog.
Ond mae’r Llywodraeth yn obeithiol na fydd yn effeithio ar y naw grŵp blaenoriaeth ac y byddan nhw’n dal i gael cynnig brechlyn erbyn canol mis Ebrill.
“Rydan ni’n hyblyg a bydd yn rhaid i ni addasu yn ystod yr wythnosau nesaf,” meddai Mark Drakeford.
Aeth ymlaen i ddweud fod y brechlyn Oxford-AstraZeneca yn ddiogel.
“Mae’r rheoleiddiwr annibynnol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynnyrch Gofal Iechyd, wedi cadarnhau bod budd y brechlyn lawer iawn yn uwch nag unrhyw risg,” meddai.
“Ar ben hynny, mae’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd hefyd wedi dweud fod y brechlyn yn ddiogel a bellach mae sawl gwlad yn Ewrop yn ei ddefnyddio drachefn.
“Rwyf yn annog pawb i’w gymryd pan fydd y cyfle’n dod.”
Gallwch ddarllen mwy am hyn isod.
Disgwyl oedi o hyd at bedair wythnos wrth gael cyflenwad brechlyn i Gymru
Ffigurau diweddaraf
Funudau cyn i’r gynhadledd ddechrau, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 201 achos newydd o’r coronafeirws a naw marwolaeth wedi cael eu cofnodi.
Mae’n dod â’r cyfanswm o achosion yng Nghymru i 207,438 a’r nifer o farwolaethau i 5,467, tra bod cyfradd yr achosion dros saith diwrnod wedi cynyddu ychydig o 43 am bob 100,000 person i 44.
Mae 23,946 yn fwy o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn, gan ddod â’r cyfanswm o bobl sydd wedi derbyn eu dos cyntaf i 1,204,101 – 38% o’r boblogaeth.