Mae Dafydd Iwan yn credu y bydd y teulu brenhinol mewn twll, oni bai bod y “gyfundrefn yn newid.”

Fe wnaeth cyfweliad damniol Meghan a Harry gydag Oprah Winfrey arwain at sgwrs ynghylch dyfodol y teulu brenhinol.

Ar ôl i’r cyfweliad gael ei ddarlledu, dywedodd Piers Morgan ar raglen ‘Good Morning Britain’ nad oedd yn “credu’r un gair” o’r hyn oedd Meghan Markle yn ddweud am gyflwr ei hiechyd meddwl.

Bu i 57,000 o bobol gwyno am sylwadau Piers Morgan wrth Ofcom, y nifer mwyaf i’r rheoleiddiwr ei dderbyn erioed.

Yn fyw ar y rhaglen, cafodd Piers Morgan ffrae gydag un o’i gyd-gyflwynwyr, gan gerdded allan, ac mae bellach wedi gadael ei swydd.

Yn ystod cyfweliad gydag Oprah Winfrey, a gafodd ei ddarlledu ar ITV nos Lun (Mawrth 8), roedd Harry a Meghan wedi darlunio’r teulu brenhinol fel sefydliad di-hid a hiliol oedd wedi methu â’u cefnogi, yn bennaf wrth i Meghan fethu ag ymdopi â straen meddyliol.

‘Dim mater o gasáu person, ond gwrthwynebu cyfundrefn’

Ers degawdau, mae Dafydd Iwan wedi bod yn llafar ei wrthwynebiad tuag at y Frenhiniaeth, yn enwedig drwy ei ganeuon protest.

Hanner canrif wedi arwisgo Charles yn Dywysog Cymru yng nghastell Caernarfon ym 1969, aeth Dafydd Iwan i’w gyfarfod.

“Roedd o’n gyfle i ddweud ‘dim mater o gasáu person ydi hyn, ond casáu cyfundrefn – a gwrthwynebu cyfundrefn’,” meddai Dafydd Iwan wrth golwg360.

“Be’ oedd yn ddiddorol yn y sgwrs gawsom ni oedd ei fod o, mwy neu lai, yn cydnabod yr hyn mae Harry wedi’i ddweud – sef ei fod o’n gaeth i gyfundrefn na fedrith o ddod allan ohoni.

“Agwedd Charles ydi ei fod am fanteisio ar unrhyw awdurdod er mwyn gwneud y pethau sy’n bwysig iddo. Mae ganddo fo rai pethau mae’n teimlo’n angerddol amdanyn nhw fel yr amgylchedd, a chadw traddodiadau.”

“Chwalu lot fawr o bethau”

“Dw i’n meddwl bod cyfweliad Harry a Meghan wedi chwalu lot fawr o bethau, ac wedi datgelu lot fawr o bethau nad oedden nhw mewn gwirionedd eisiau eu datgelu,” meddai Dafydd Iwan.

“Un o’r pethau hynny ydi bod y sefydliad sy’n rhedeg y frenhiniaeth – nid y teulu gymaint – yn hollol anhyblyg, hollol Saesnig, yn gwrthod cydnabod bod datganoli wedi digwydd.

“Maen nhw fwy neu lai yn yr un cwch â Boris Johnson, sydd eisiau datblygu’r syniad yma o ‘one nation’ ar ôl Brexit.

“Dw i ddim yn credu bod Charles, er enghraifft, yn meddwl hynny. Roedd yn rhoi’r argraff i mi ei fod eisiau deall yn well yr hyn oedd yn digwydd mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban.”

Cymru i ddilyn patrwm Gweriniaeth Iwerddon?

Polisi Alex Salmond, cyn-Brif Weinidog yr Alban, yn ystod refferendwm annibyniaeth y wlad yn 2014 oedd i barhau gyda’r cysylltiad â’r teulu brenhinol.

“Pragmatydd ydi Alex Salmond,” esbonia Dafydd Iwan.

“Fyswn i’n meddwl bod Nicola Sturgeon yn fwy o blaid gweriniaeth, ac yn sicr dyna fyswn i’n licio gweld yng Nghymru.

“Petai rywun yn gofyn i fi ddewis rhwng Cymru annibynnol ond bod aelod o’r teulu brenhinol yn Brif Ddinesydd, neu gael gwared ar y teulu brenhinol ond parhau yn aelod o’r Deyrnas Unedig – fyswn i’n mynd am annibyniaeth.

“Be ydw i eisiau gweld ydi gwledydd annibynnol yn cydweithio gyda’i gilydd, a mater i’r bobol fyddai dewis a ydyn nhw eisiau cadw’r frenhiniaeth, neu weddillion y frenhiniaeth, neu fynd am Lywydd fel [sy’n digwydd gyda] gweriniaeth.

“Dyna fyswn i’n ddewis. Fyswn i’n licio i Gymru ddilyn patrwm Iwerddon, yn ethol Prif Ddinesydd fel Llywydd. Mae’n lot rhatach, ac yn llawer mwy democrataidd wrth gwrs.

“Dw i ddim eisiau gweld disodli’r frenhiniaeth Saesneg gyda brenhiniaeth Gymreig. Er fy mod i wedi canu am Llewelyn a Glyndŵr, pobol oedd mewn awdurdod oherwydd eu tras oedden nhw, a dw i ddim eisiau mynd yn ôl i’r drefn honno.

“Fyswn i’n dweud fod pobol fel Harry a Meghan, er eu holl gyfoeth, yn symud i’r cyfeiriad yna – eu bod nhw’n gweld llawer mwy o synnwyr mewn gweriniaeth na brenhiniaeth…

“Dw i’n credu y byddai lot callach i Gymru gael gwared ar yr holl beth, a chychwyn o’r cychwyn efo gweriniaeth a democratiaeth,” meddai wrth ystyried â yw cysylltiad Cymru â’r teulu brenhinol yn rhoi enw drwg iddi ar lefel ryngwladol.

Sefydliad “haearnaidd, hen-ffasiwn, sefydledig, Saesnig, anhyblyg”

“Be’ mae’r cyfweliad [gydag Oprah] wedi dangos ydi bod yna broblemau sylfaenol ynglŷn â’r holl sefydliad, fysa [Meghan a Harry] heb droi cefn ar yr holl beth ar chwarae bach,” meddai Dafydd Iwan.

“I wneud hynny, mae’n rhaid bod rhwyg uffernol wedi digwydd. Dw i ddim yn credu ei fod yn rhwyg rhwng teuluoedd, ond bod y sefydliad sy’n rhedeg y teulu brenhinol rhy haearnaidd, hen-ffasiwn, sefydledig, Saesnig, anhyblyg, a’u bod nhw ddim yn symud ymlaen.

“Dw i’n dod yn ôl at y ffaith bod Harry wedi dweud bod ei frawd a’i dad yn gaethion. Mae’n sefyllfa drist iddyn nhw a fyswn i ddim yn licio newid lle efo nhw am bris yn y byd.

“Mae eu poblogrwydd nhw yn amrywio efo’r sgandal ddiweddaraf. Roedd yn edrych fel eu bod nhw am ail-fodelu eu hunain o amgylch y ddau gwpwl ifanc yma, ond mae hynny wedi chwalu.

“Dau ddewis sydd ganddyn nhw: chwalu yn gyfan gwbl, neu ailfodelu ar fodel Sgandinafaidd – teulu sy’n cael llawer llai o arian o’r pwrs cyhoeddus, a llawer llai o statws.

“Ond, dw i ddim yn gweld hynny yn gweithio oherwydd bod y sefydliad sy’n eu rhedeg nhw mor glwm â’r hen drefn.”

Hiliaeth yn “ganser yn ein cymdeithas”

Roedd y cyfweliad yn portreadu’r sefydliad fel un hiliol, ac mae hynny, yn ôl Dafydd Iwan, yn codi “o’n hanes ymerodrol ni”.

“Mae hiliaeth yn ganser yn ein cymdeithas drwyddi draw, ac mae’r frenhiniaeth yn sownd i hynny. Ar ôl rhoi’r gorau i’r ymerodraeth Brydeinig, fe ddaliwyd gafael ar y ‘Gymanwlad’, a pharhau i reoli fel ymerodraeth feddal, fel petai.

“Roedd hynny yn ryw fath o hiliaeth yn fy marn i, gweddill y system o goloneiddio yn hytrach na chydnabod bod pawb yn gyfartal.”

“Os na wneith y gyfundrefn newid, mae’r teulu brenhinol mewn twll”

Roedd y cyfweliad gyda Harry a Meghan yn trafod y ffordd mae’r Wasg Brydeinig yn trin Meghan, yn enwedig o gymharu â Kate Middleton, ei chwaer-yng-nghyfraith.

Yn ôl Dafydd Iwan, mae’r Wasg yng ngwledydd Prydain yn aml yn “unllygeidiog, ac yn mynd dros y tresi yn rhwydd iawn”, ac “ar adegau maen nhw’n gwneud pethau hollol, hollol anfaddeuol.

“Beth mae rhywun eisiau ydi’r gwir, newyddiaduraeth onest sy’n sticio efo’r ffeithiau ac yn rhoi barn onest.

“Be’ sydd gennym ni’n aml iawn yw rhagfarn ac ymosod personol, ac yn anffodus mae hiliaeth yn rhan ohono yn llawer rhy aml.”

Ychwanega Dafydd Iwan bod rhaglen The Crown wedi dangos mai “pypedau ydi aelodau o’r teulu brenhinol, sy’n cael eu rhedeg gan gyfundrefn sy’n ofnadwy o anhyblyg, ofnadwy o galed, ac ar brydiau yn ofnadwy o greulon.

“Dw i’n meddwl bod The Crown wedi gwneud i lot o bobol feddwl o ddifrif am y teulu brenhinol.

“Os na wneith y gyfundrefn newid, mae’r teulu brenhinol mewn twll yn fy marn i.”