Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi lleoliadau i ddathlu’r Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Mae ‘Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru’ yn cofnodi ac yn dathlu cymuned y Lluoedd Arfog, gan dderbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Rhwng 2022 q 2026, bydd Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cael ei gynnal yn Wrecsam, Casnewydd, Abertawe, Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin.
Mae cynlluniau amgen ar y gweill i nodi Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn 2021 dros y We.
“Cyfle i arddangos gwaith y Lluoedd Arfog a dangos ein cefnogaeth”
Dywedodd y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ddiogelwch Cymunedol a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf:
“Mae’r rhai sy’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Arfog, yn gyn-filwyr, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd i gyd yn aelodau gwerthfawr o’n cymunedau yng Nghymru.
“Diolchwn iddyn nhw am eu gwasanaeth a’r aberth ganddyn nhw i gadw ein cymunedau’n ddiogel, gan gynnwys ymdrechion diweddar i gadw cymunedau’n ddiogel rhag y coronafeirws.
“Mae pob cyngor yng Nghymru yn falch o fod wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog ac maen nhw wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog.
“Mae Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn rhoi’r cyfle i arddangos gwaith y Lluoedd Arfog a dangos ein cefnogaeth.”
“Edrych ymlaen at y digwyddiadau wyneb yn wyneb unwaith eto”
Ychwanegodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Mae’r Lluoedd Arfog wedi cefnogi ein cymunedau erioed; yn ystod y pandemig ar hyn o bryd maen nhw’n chwarae rôl hanfodol wrth gynnig cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
“Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth a’n gwerthfawrogiad o Gymuned y Lluoedd Arfog ac rydw i’n edrych ymlaen at y digwyddiadau wyneb yn wyneb unwaith eto.”