Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi pa strydoedd fydd ar gau i gerbydau yn Aberystwyth wrth iddyn nhw ail-gyflwyno parthau diogel – cam sydd wedi cael ymateb cymysg gan berchnogion busnesau lleol.
Cafodd parthau diogel eu cyflwyno yn y Sir ym mis Gorffennaf y llynedd er mwyn creu gofod i bobol gerdded o gwmpas yn ddiogel.
Bydd strydoedd yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Chei Newydd yn cau rhwng 11 y bore a chwech yr hwyr bob dydd o ddydd Llun, Mawrth 29 ymlaen.
Bydd y drefn yn dod i ben ar Ebrill 17, meddai’r Cyngor.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Rhoddwyd y Parthau Diogel ar waith ym mis Gorffennaf 2020 yn wreiddiol.
“Prif ddiben y Parthau Diogel a mesurau eraill a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yw helpu i ddiogelu iechyd ein cymuned drwy leihau’r risg o heintiau Covid.
“Gofynnwyd am adborth ar y Parthau Diogel a gyflwynwyd yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd.
“Croesawyd yr adborth ac fe’i hystyriwyd wrth roi cynlluniau ar waith ar gyfer y Pasg.
“Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyfnod gwyliau’r Pasg o’r wythnos sy’n dechrau ar Mawrth 29.
“Mae’r newidiadau’n adlewyrchu’r adborth a dderbyniwyd. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu monitro a’u hadolygu ar gyfer yr haf.
“Mae angen i’r cyhoedd barhau i fod yn ofalus ac yn wyliadwrus wrth i’r rhaglen frechu barhau i gael ei chyflwyno.
“Diolchwn i drigolion ac ymwelwyr am ddilyn y canllawiau er mwyn sicrhau diogelwch pawb yng Ngheredigion.”
Yn Aberystwyth, yr unig newidiadau mae’r cyngor yn eu gwneud i’r drefn y llynedd ydi:
- Cau’r ffyrdd yn ddyddiol unwaith eto ond gwneud newidiadau sy’n caniatáu mynediad i Stryd y Bont a Stryd y Frenhines.
- Cyflwyno system unffordd yn Heol y Wig.
- Gwrthdroi cyfeiriad y traffig yn Stryd y Popty a Stryd y Gorfforaeth.
- Darparu mwy o fannau parcio i ddeiliaid bathodynnau glas yn Stryd y Popty.
- Caniatáu mynediad o’r promenâd ar hyd Ffordd y Môr a Stryd y Baddon.
- Caniatáu mynediad i Lôn Cambria.
“Teimlo fel bod gan y Cyngor vendetta yn erbyn fy musnes”
Un dyn sydd ddim yn hapus o gwbl i weld y parthau diogel yn dychwelyd ydi David Rowlands, sy’n berchen ar Garej Talbot yn nhref Aberystwyth.
Dywedodd wrth golwg360 ei fod yn “teimlo fel bod gan y cyngor vendetta yn erbyn fy musnes” a’i fod wedi gwneud cwyn swyddogol.
“Dydan ni heb gael unrhyw hysbysiad gan y cyngor er fy mod i wedi gofyn iddyn nhw sawl gwaith am eu cynlluniau,” meddai David Rowlands.
“Dw i ddim yn gwybod beth mae’r cyngor yn drio ei wneud ac er fy mod i wedi ceisio gofyn, dydyn nhw heb ddod yn ôl ata i.
“Alla i ddim gweld rheswm drosto fo, ac fe wnes i gŵyn swyddogol ar Fawrth y Cyntaf.
“Dydi busnesau’r dre ddim eisiau hyn, a dim ond y caffis fydd yn elwa ohono… dydyn nhw (y cyngor) ddim am helpu unrhyw fusnesau eraill.
“Mae’n teimlo fel bod gan y cyngor vendetta yn erbyn fy musnes.”
Aeth David Rowlands ymlaen i ddweud bod y parthau diogel yn “shambls” pan gawson nhw eu cyflwyno am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf.
Mae ganddo bryderon am y bobol sy’n cael eu cyflogi i godi rhwystrau – barriers – sy’n caniatau i rhai ceir yrru i’w garej.
“Mae yn rhwystredig, oherwydd y tro diwethaf roedd o’n shambls.
“Roedd yno bobol ar barriers ar waelod strydoedd ac roedden nhw’n dod o Wrecsam!
“Does gen i ddim byd yn erbyn pobol Wrecsam, ond y nhw oedd efo’r mwyaf o achosion [covid] ar y pryd.
“Wedyn gawson nhw fyfyrwyr yn gweithio ar y barriers yn dweud wrth fy nghwsmeriaid bo’ nhw methu dod i fyny i’r garej, a finnau’n gorfod dod ar y ffôn i ddweud bod ganddyn nhw apwyntiad.
“Pwy sy’n mynd i fod ar y barriers y tro yma? Sut fydd pobol yn gwybod pa ffordd i fynd? Dw i wedi gofyn i’r cyngor ond dw i heb gael ateb.”
“Gwneud synnwyr”
Mae Shumoana Pallit, sy’n rhedeg Ultracomida, cadwyn annibynnol o siopau sy’n arbenigo mewn bwyd o Gymru, Sbaen a Ffrainc, yn credu bod cyflwyno’r parthau diogel eto yn “gwneud synnwyr”.
“Rydan ni’n hapus i gael parthau diogel yn ôl, maen nhw’n syniad da,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n gwneud synnwyr oherwydd bydd mwy o le i bobol yn y stryd ac mae yno fwy o bobol o gwmpas y dyddiau yma – ti’n teimlo’r stryd yn llenwi.”
Ac mae hi’n dweud fod y parthau diogel wedi bod yn beth da i’w busnes pan gawson nhw eu cyflwyno ym mis Gorffennaf y llynedd.
“Roedden ni’n hapus iawn oherwydd roedden ni’n gallu rhoi byrddau tu allan, cyflogi mwy o staff a chadw pawb yn saff ar yr un pryd.
“Ac o safbwynt personol, mae’n neis cael mwy o le ar y stryd.”