Mae ffoadur a dreuliodd fwy na mis yn byw mewn canolfan ar gyfer ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun yn Sir Benfro wedi dweud fod y profiad fel “breuddwyd ddrwg iawn.”
Daeth Eduardo i’r Deyrnas Unedig ar ôl dianc o El Salvador rhag ryfeloedd rhwng gangiau a lle’r oedd mewn perygl o gael ei herwgipio, meddai.
Yn dilyn adroddiad damniol yn disgrifio’r amgylchiadau yng ngwersyll Penalun, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi fod y gwersyll yn cau ddydd Sul (Mawrth 21).
Er hynny, mae’n debyg y bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i ddefnyddio Barics Napier yng Nghaint fel llety i ffoaduriaid.
Yn nes ymlaen heddiw (Mawrth 19), bydd pobol ledled y Deyrnas Unedig yn dod ynghyd yn rhithiol i alw am degwch i ffoaduriaid.
Fel “breuddwyd ddrwg iawn”
Pan ddaeth Eduardo o El Salvador i’r Deyrnas Unedig bu’n rhaid iddo aros mewn Canolfan Gadw, cyn cael ei symud i westy am sawl mis, meddai.
Un diwrnod, bu’n rhaid iddo fynd ar fws gyda 22 ffoadur arall, heb wybod i ble’r oedd yn mynd, meddai.
“Roedd hi’n bwrw ac yn wyntog, ac roedd yn sefyllfa frawychus iawn, iawn,” meddai Eduardo.
“Roeddwn i wedi dychryn gan nad oedd neb yn esbonio beth oedd yn digwydd.”
Cyrhaeddodd wersyll Penalun, a disgrifia Eduardo’r digwyddiad fel “profiad gwaethaf” ei fywyd.
“Pan gyrraeddom ni roedd yn ofnadwy.”
Ychwanegodd fod byw ym Mhenalun fel “breuddwyd ddrwg iawn,” ac nad oedd rheoliadau Covid mewn lle, gyda 200 o ddynion yn rhannu cyfleusterau.
Mae Eduardo eisoes wedi gadael Penalun, a bydd yr holl ffoaduriaid sydd dal yno yn gadael erbyn dydd Sul.
Galw am system “effeithiol a theg”
Bydd y digwyddiad rhithiol heddiw sy’n galw am degwch i ffoaduriaid yn cynnwys areithiau gan sawl Aelod Seneddol, ac mae’n cael ei drefnu gan nifer o elusennau.
“Ar ôl wynebu pwysau dwys gan elusennau ac arbenigwyr meddygol, rydym yn falch i weld bod gwersyll Penalun yn cau. Ond mae gwersyll Napier yn parhau ar agor er gwaetha’r amodau peryglus yno,” meddai Kolbassia Haoussou, o elusen Freedom from Torture, un o’r mudiadau sy’n trefnu’r digwyddiad heddiw.
“Mae’r ffordd y mae’r bobol hyn wedi cael eu rhoi yn y llety yn adlewyrchu’r ffordd rydym ni’n trin pobol sydd wedi ffoi rhag perygl. Mae’n adlewyrchu’r hyn ydym ni.
“Mae’n amser i’r Llywodraeth [Prydain] stopio chwarae gwleidyddiaeth gyda bywydau pobol. Rydym ni angen system loches effeithiol a theg sy’n caniatáu i ffoaduriaid ailadeiladu eu bywydau o fewn ein cymunedau.”