Mae mwyafrif gwledydd Ewrop wedi cyhoeddi eu bod nhw am ailddechrau defnyddio brechlyn AstraZeneca, ar ôl clywed rhagor am ei ddiogelwch.

Roedd nifer o wledydd wedi penderfynu atal y defnydd yn sgil pryderon ei fod yn achosi i’r gwaed geulo.

Erbyn hyn, mae nifer o’r gwledydd hynny wedi gwrthdroi eu penderfyniad ar ôl i Asiantaeth Meddyginiaeth Ewrop ddweud fod y brechlyn yn “sâff ac effeithiol”.

Ymysg y gwledydd i gyhoeddi eu bod nhw’n ailddechrau brechu heddiw (Mawrth 19), mae Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Cyprus, Latfia, a Lithwania. Bydd Sbaen, Portiwgal a’r Iseldiroedd yn ailddechrau wythnos nesaf, ond dywedodd Sbaen eu bod nhw’n ystyried peidio brechu rhai grwpiau.

Er gwaethaf cyngor Asiantaeth Meddyginiaeth Ewrop, dywedodd Norwy, Sweden a Denmarc eu bod nhw am barhau i atal ei ddefnydd, ac ymchwilio’n annibynnol i ddiogelwch y brechlyn.

“Sâff ac effeithiol”

Bydd Boris Johnson, a Phrif Weinidog Ffrainc, yn derbyn y brechlyn heddiw.

“Mae brechlynnau Rhydychen a Pfizer yn sâff,” meddai Boris Johnson.

“Yr hyn sydd ddim yn sâff yw dal Covid, ac, felly, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn derbyn y brechlyn pan rydym ni’n cael y cynnig.”

Daw ei sylwadau wedi i Asiantaeth Meddyginiaeth Ewrop ddweud fod y brechlyn yn “sâff ac effeithiol”, a bod ei fuddion yn dipyn mwy nag unrhyw beryglon.

Dywedodd yr Asiantaeth nad yw hi’n bosib “diystyru, yn bendant”, y siawns bod cysylltiad rhwng y brechlyn a nifer fach iawn o achosion o geulo’r gwaed difrifol.

Nid yw’r sefyllfa yn annisgwyl, yn ôl Emer Cooke, Prif Weithredwr yr Asiantaeth.

“Wrth frechu miliynau o bobol” bydd adroddiadau am achosion prin yn siŵr o godi, ychwanegodd.

Ond, mae’r Asiantaeth wedi dod i’r canlyniad nad oes risg uwch o geulo’r gwaed yn dod gyda’r brechlyn, a’i fod yn fwy tebygol o leihau’r risg.

Buddion y brechlyn yn fwy na’i beryglon

Mae Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn y Deyrnas Unedig wedi dod i’r un casgliad, gan ddweud nad ydynt wedi profi bod cysylltiad rhwng y brechlyn a cheulo’r gwaed, a bod buddion y brechlyn yn fwy na’r peryglon.

Yn y Deyrnas Unedig, mae pum dyn wedi dioddef “achosion prin” o geulo’r gwaed yn yr ymennydd ers cael y brechlyn, ond nid oes cysylltiad wedi’i brofi rhwng yr achosion a’r brechlyn.

Dywedodd yr Asiantaeth Rheoleiddio eu bod yn edrych ar yr adroddiadau, ond maent yn pwysleisio eu bod yn achosion “prin iawn”, a’i bod yn bosib mai Covid achosodd y ceulo.

Daw’r hwb hwn i’r brechlyn wrth i Weinidog Diwylliant San Steffan awgrymu y gallai “tystysgrifau” coronafeirws gael eu defnyddio er mwyn ceisio dychwelyd at normalrwydd.

Ar hyn o bryd, mae Michael Gove yn arwain adolygiad i “agweddau moesegol, cydraddoldeb, preifatrwydd, cyfreithiol, ac ymarferol” y rhaglen.

Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi addo na fydd y gostyngiad mewn cyflenwad brechlynnau fis nesaf yn effeithio ar ei gynlluniau i lacio’r rheolau yn Lloegr.

Brechlyn AstraZeneca yn “ddiogel ac effeithiol”, medd corff Ewropeaidd

Daw casgliad yr EMA yn sgil gofidion am geulo gwaed